Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau CYFRINACHAU NATUR. Gan O. E. Roberts. Hugh Evans a'i Feibion, Cyf., Gwasg y Brython, Lerpwl. Argraf/iad cyntaf, Gorffennaf, 1953. Prt's, 5/ Yn y gyfrol hon ceir casgliad o ysgrifau a ddyfarnwyd yn orau yng nghys- tadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 1952. Ceir ynddi amrywiaeth gyfoethog o destunau-Jlyseueg, milodeg, adaryddiaeth, bacterioleg, cemeg a bywgemeg, i enwi ond rhai ohonynt. Yn yr Ysgrif gyntaf ar Cyn Bod Gwyddoniaeth cawn bigion diddorol yn disgrifio galluoedd a nodweddion arbennig amrywiol greaduriaid a llys- iau; nodweddion cynhenid neu alluoedd greddfol gan mwyaf. Sonnir am yr adeiladwyr a'r penseiri cywrain, sef y gwenyn, y morgrug, y termit a'r polyp, heb sôn am y peiriannydd siful-yr afanc — a fedr agor camlesi a chronni dwr i'w ddibenion ei hun. Eto, dyna'r pryf copyn hwnnw sy'n arbenigwr ar y problemau astrus a ddaw i ran y neb a fyn adeiladu dan y dẃr Mae'r gwenyn hwythau, meddir, yn beirianyddion awyru profiadol. Medr y crancod a'r cimychod dyfu aelodau newydd eu hunain tra mae'r llawfeddygon wrthi'n ceisio gwelliannau ar eu technegau trawsblannu cnawd. Adroddir hefyd am fordwyaeth danfor y llysywod a chywirdeb rhyfeddol mor- dwyaeth yr adar trawsfudol ar eu hedfeydd meithion. Pennawd yr ail ysgrif yw Rhythmau." Pwysleisir ynddi rythmau hanfodol y cread a'u dylanwadau ar fywyd llysiau, anifeiliaid, ymlusgiaid, pysgod, pryfed ac adar. Adroddir llawer o ffeithiau sy'n weddol hysbys ond fe'u clymwyd wrth y testun mewn dull celfydd a ddengys inni geinder newydd mewn pethau a dybiem eu bod yn rhy gynefin i ryfeddu atynt. Cawn driniaeth fedrus ar y rhythmau sy'n ddibynnol ar yr haul; goleuni a gwres y dydd; tywyllwch ac oerni'r nos a rhod y tymhorau a'u hamryfal effeithiau. Anodd yw dewis o blith danteithion yr ysgrif hon ond hoffwn grybwyll dau neu dri o'r tameidiau blasusaf. Mae llawer o arferion yr eog yn hysbys i herwhelwyr yr afonydd ond adroddir manylion bywyd yr eog yn llawn yma (i'r graddau y gwyddys amdanynt) a mwy diddorol fyth yw eu cael ar ôl darllen rhamant bywyd y llysywen yn yr un ysgrif. Traethir yn helaeth hefyd ar aeafu'r cysgaduriaid a disgrifir arbrofion a wnaed arnynt, e.e., estyn gaeafgwsg y pathew yn ddiarwybod iddo drwy ei gadw'n oer yn hwy na'r tymor naturiol. Ber yw'r ysgrif ar Ddawnsio a cheir ynddi sylwadau ar arwyddocad rhywiol dawnsiau adar, anifeiliaid a phryfed ond moethyn y bennod yw crynhoad o ymchwil yr Awstriad Karl von Frisch i ystyr dawnsiau'r gwenyn. Yr Wythfed Pla" yw teitl yr ysgrif ar y locustiaid. Cawn fraslun o hanes y carn-bla hwn o ddyddiau Moses hyd amser Livingstone a'r presennol