Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr unig enghreifftiau a gofiaf yn rhwydd yw phase contrast microscopy a jet propulsion Fe welir yma ddigon o eiriau ar fenthyg o'r ieith- oedd clasurol; arfer angenrheidiol, anochel a chydnabyddedig ymhob iaith fodern wrth ymdrin a gwyddoniaeth neu dechnoleg. Sylwais ar ryw naw o wallau argraffu yn y gyfrol ond nid oes un ohonynt yn debyg o ddrysu'r ystyr. Mae gan yr awdur amgyffred eang o undod hanfodol y gwyddorau ac fe ddangosir inni bob agwedd o bwys a berthyn i ddatblygiad gwyddoniaeth: cefndir hanesyddol; ymchwil arbrofol; offer a thechnegau arbennig; damcan- iaethau diweddar a hŷn ac egwyddorion sylfaenol. Anaml y llwyddir i wasgu cymaint o sylwedd i ofod mor gyfyng. Credaf y dylai Cyfrinachau Natur fod yn nwylo pob athro bywydeg yn yr ysgolion ac yn llyfrgelloedd y Brifysgol hefyd. Cymwynas dda â'r gwyddorau ac â llenyddiaeth Cymru oedd cynnig y gyfrol hon i'r cyhoedd am bris rhesymol iawn. Haedda'r cyhoeddwyr ganmoliaeth am hyn ac am argraffu destlus. Aberystwyth. J. B. BowEN. BYWYD, GWAITH AC ARABEDD ANTHROPOS. Gan O. Llew Owain. Caernarfon Llyfrfa'r Cyfundeb. Pris. 7/6. Cymeriad cymhleth oedd y Parch. R. D. Rowland, a oedd yn llawer mwy adnabyddus yng Nghymru, ac hyd yn oed yn y dref yr oedd yn byw ynddi, wrth ei ffugenw, Anthropos. Cafodd hyd i'r enw hwnnw (medd ef mewn ysgrif ddienw o'i eiddo arno ef ei hun i'r Ymwelydd Misol yn 1912) yn y gwerslyfr Groeg, a rhag iddo ddyfod o'r coleg heb ddim Groeg, mab- wysiadodd ef. Yr oedd y dywediad yn nodweddiadol. Bron na ellid dweud mai dau ddyn gwahanol oedd y Parch. R. D. Rowland ac Anthropos, ac ar y cyfan yr oedd llawer mwy o Anthropos ynddo nag o'r gweinidog Methodist. Ni bu erioed yn Gyfundebwr eiddgar iawn. Ufuddhaodd, i raddau, i reolau a gofynion y Cyfundeb, ond ni charodd lawer arnynt, a hwyrach y gellir dweud i'r Cyfundeb fod yn addfwynach tuag ato ef nag y bu ef tuag at y Cyfundeb," medd Mr. Llew Owain yn y gyfrol hon, ac â ymlaen i ddweud mai athrylith fawr yn llawer mwy na rheolau a gofynion pwyîlgorau a chyfundrefnau oedd Anthropos. Y mae'n sicr nad oedd pwyllgorau a chyfundrefnau yn gysegr- edig yn ei olwg, ac y mae yn amheus a fuasai pethau o'r fath mewn unrhyw gylch yn dygymod ag ef. Byddai dyn yn amau weithiau a ddylasai fod wedi myned i'r weinidogaeth o gwbl. Nid nad oedd yn bregethwr da; yr oedd, pan fyddai yn yr hwyl, yn bregethwr da iawn ac yn bregethwr ar ei ben ei hun, ac, fel y dywed Mr. Llew Owain, byddai sôn am ei ddawn i gadw Seiat. Cwestiwn arall, hwyrach, ydyw ai dawn i gadw'r Seiat Fethodistaidd oedd y ddawn honno. Nid bwrw amheuaeth ar ddilysrwydd ei grefydd a wnaf wrth amau ai y weinidogaeth oedd ei briod faes. Dyna'r unig faes a oedd yn agor iddo ef, fel i lawer un arall, yng Nghymru'r cyfnod hwnnw.