Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

A rhoddi R. D. Rowland o'r neilltu, pwy a pha beth oedd Anthropos? A oedd yn fardd mawr, yn llenor, neu'n ysgolhaig? Yn sicr, nid oedd yn ysgolhaig yr oedd cylch ei ddarllen yn rhyfeddol o gyfyng. Ei brif ddawn farddonol oedd y ddawn ysgafn, gyffelyb i eiddo Austin Dobson, dyweder, yn Saesneg, a gall honno fod yn ddawn gwir fardd. Yn ei gyffyrddiadau ysgafn yr oedd Anthropos ar ei orau fel bardd; ni lwyddodd yntau i osgoi sentimentaliaeth ei gyfnod, ond nid dyna ei awyrgylch briodol ef. Meddai ar gyfuniad o ddawn y telynegwr ysgafn, chwareus, ac o ddawn y dychanwr hefyd. Mygodd yr olaf i ryw raddau, ond pan fentrai allan yn y cymeriad hwnnw yr oedd yn finiog ac yn effeithiol iawn. Y mae rhywbeth tebyg yn wir am ei ysgrifau; gyda'i gleddyf yn ei law yr oedd Anthropos ar ei orau. Fel y dywed Mr. Llew Owain, bu iddo gynulleidfa fawr iawn ar un adeg. Newidiodd chwaeth a safonau i ryw raddau, a thalodd yntau'r ddirwy arferol am fyw i fod yn hen iawn. Yna y cyfododd brenin newydd yn yr Aifft, yr hwn ni adnabuasai mo Joseff." Nid oedd y genhedlaeth newydd yn ei restru yn uchel fel Uenor medrwyd trafod yr ysgrif Gymraeg fwy nac unwaith heb sôn am ei gyfraniad ef a wnaeth fwy o ysgrifau na neb oedd yn fyw. Yr oedd ei waith yn anwastad, wrth gwrs, fel gwaith y rhan fwyaf o bobl sydd yn ysgrifennu llawer iawn, ond credaf y gallesid gwneud casgl- iad diddorol a gwerthfawr iawn o'i ysgrifau. Yn y gyfrol hon y mae gan Mr. Llew Owain restrau maith o lyfrau, darnau adrodd, ac ysgrifau Anthropos mewn gwahanol gyfnodolion, rhestrau sydd yn dangos ôl llafur a gofal mawr iawn. Rhydd lawer o le, hefyd, i'w arabedd, a hynny yn hollol briodol. Casglodd lawer iawn o'i ddywediadau, ond llwyddodd i gadw'r fantol yn deg rhag i neb feddwl mai "dyn digrif" oedd Anthropos. Yr oedd peth tuedd felly yn bod yn ystod ei fywyd, ond camddarllen ei gymeriad a'i ddywediadau oedd meddwl peth felly. Nid digrifwch chwerthinllyd oedd ei nodwedd ef. Cleddyf blaenllym oedd ei arf, ac nid bob amser y byddai'r sawl a bigid ganddo yn gweled y peth yn ddigrif o gwbl. Bydd yn rhaid aros yn hir cyn y gellir cyhoeddi rhai o ddywediadau ac epigramau Anthropos. Ond y mae'r pethau a gasglodd Mr. Owain yn y gyfrol hon ac yn ei gyfrol ar Anthropos yn ei berthynas â Chymdeithas Awen a Chân, yn dangos y dyn ac yn diogelu ei goffadwriaeth. Y mae'r cofiant yn ddarllenadwy drwyddo ac yn gwneud chwarae teg â gwahanol arweddau cymeriad cymhleth ac anodd ei ddisgrifio. E. MORGAN HüMPHEEYS. GOSPEL AND LAW. Gan C. H. Dodd. Cambridge University Press. Pris 10/6. Y Bampton Lectures a draddodwyd ym Mhrifysgol Columbia, America, yw cynnwys y gyfrol hon. Yr is-deitl yw, The Relation of Faith and Ethics in Early ChTÌstianity." Delia'r bennod gyntaf â phregethu (herygma) a hyfforddiant moesol (didache neu catechesis) yn yr Eglwys Fore. Dengys yr awdur na chaniata crefydd y Testament Newydd unrhyw ysgaru rhwng gwasanaeth i Dduw