Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Y Cristion a'r Eglwys FEL rhan o Ymgyrch y Deffro gelwir "ar ein holl aelodau i adnewyddu eu ffyddlondeb i'r Eglwys a'i hordinhadau." Y cyfle a'r cyfrwng naturiol i hynny ydyw trwy feithrin ffyddlondeb mewn addoliad a gwasanaeth yn yr eglwys leol; felly y deuir. i werthfawrogi ystyr a braint bod yn perthyn i'r Eglwys gyffred- inol. Ar y llaw arall, trwy'r ymwybod o fod yn perthyn i'r Eglwys sydd trwy'r ddaer a'r nef yn un y rhoddir gwerth ar aelodaeth eglwys leol. Y gynulleidfa unigol ydyw'r Eglwys gyffredinol yn y 11e arbennig hwnnw, grwp o wyr a ,gwragedd sy'n cydnabod ac yn gwasanaethu Crist fel Arglwydd, gan geisio ym mhob peth ei arweiniad Ef. Ceir bywyd yr Eglwys ym mha Ie bynnag y cyferfydd Cristionogion mewn cyfeillach â'i gilydd, p'le bynnag, yng ngeiriau George Fox, "yr adnabyddant ei gilydd yn yr hyn sydd dragwyddol." Rhaid cofio gwahaniaethu rhwng yr Eglwys weledig a'r Eglwys anweledig; golyga hyn y gwahaniaeth sydd rhwng pres- enoldeb gwirioneddol Crist mewn cymdeithas a grea Ef ac a gynnal a set o amodau a lunnir i hyrwyddo'r cyfryw gymdeithas. Nid rhaid gosod y naill yn erbyn y llall, ond ni ellir eu huniaethu. Nid ydyw bod yn perthyn i Eglwys weledig yn gwarantu bod neb mewn gwirionedd yn y wir Eglwys. Diau fod nifer mawr o'r rhai sydd yn yr Eglwysi gweledig heb brofi mewn gwirion- edd beth yw'r bywyd newydd yng Nghrist, tra ceir llawer sy'n meddu'r bywyd hwn ond heb fod yn aelodau o Eglwys weledig. Mae'r un Eglwys o'r rhai gwir ailanedig yn Gymdeithas an- weledig; ni ellir nodi'i hamlinell, ni ellir dywedyd yn sicr pwy sy'n perthyn iddi a phwy nad ydyw. Mae'r edefyn ysbrydol sy'n cysylltu ei haelodau unigol â Christ, a'u gwneuthur yn un Corff byw, yn anweledig. Eithr gan fod yr unigolion hyn yn gorfod byw bywyd dynion ar ddaear lawr rhaid i'r Gymdeithas wrth