Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Paratoad ar Gyfer Crist yn yr Hen Destament* "Duw, wedi iddo lefaru lawer gwaith a llawer modd gynt wrth y tadau trwy y proffwydi, yn y dyddiau diwethaf hyn a lefarodd wrthym ni yn ei Fab"; C.S.D., "God, having of old time spoken unto the fathers in the prophets by divers portions and in divers manners, hath at the end of these days spoken unto us in his Son (Hebreaid i, i). Diben dyfynnu'r adnod yn ôl y cyfieithiad Saesneg Diwygied- ig yw galw sylw at gymal ynddi, sef yn niwedd y dyddiau hyn," hynny yw, yng nghyflawnder yr amser, pan ddaeth yr adeg i gyflawni pob proffwydoliaeth ac addewid. Yn ôl yr Epistol at yr Hebreaid, ac, o ran hynny, yn ôl y Testament Newydd yn gyffredinol, dyna'r berthynas sydd rhwng y ddau Destament daeth y Mab, yr hwn a wnaeth Efe yn etifedd pob peth (adn. 2), ac yn arbennig pob peth a gyfryngwyd ac a ddatguddiwyd yn a thrwy'r Hen Destament. Golyga hyn ein bod i ystyried yr Hen Destament o safbwynt arbennig, — ei gysylltiad â Christ fel cyflawniad yr addewid a geir ynddo,-ac oni chydnabyddwn ar y dechrau yn yr Hen Destament Air Duw a fynegir yn ei gyflawnder yng Nghrist, ofer i ni ddechrau trafod y pwnc o gwbl. Mewn geiriau eraill, ni thâl i ni ddyfod at yr Hen Destament â meddwl hollol agored, yn ystyr academig y gair, a'i drafod fel y buasai pagan neu hyd yn oed Iddew yn ei drafod. Y mae i'r Hen Destament neges i'r Cristion mewn ystyr nas datguddir i neb arall, ac ni chlyw y Cristion mohoni ychwaith yn gywir oni fydd wedi derbyn a chyffesu Crist. Deuaf yn ôl cyn y diwedd at achlysur yn hanes yr Iesu a groniclir yn Efengyl Luc (iv, 16 — '22) amdano yn dar- llen yn y synagog ran a lyfr Eseia, ac wedi gorffen darllen yn dywedyd, Heddiw y cyflawnwyd yr Ysgrythur hon yn eich clustiau chwi." Dyna'r fan y saif y Cristion arni wrth fwrw golwg dros yr Hen Destament, a chael ynddo ddatguddiad o'r hyn a oedd yn paratoi at Grist. Anerchiad yn y Cyfarfod i'r Bobl leuainc yn Sasiwn Llundain, Tachwedd, 1953.