Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llinyn Hir a Chlymau Hanes Stori dynoliaeth o fore'r byd hyd heddiw yw Hanes. Ar y cychwyn y mae cylch y stori yn gyfyng-^hanes yr Eifftiaid a'r Iddewon, yr Assyriaid a'r Persiaid, y Groegwyr a'r Rhufeiniaid mewn gair, hanes byd bach cylch Môr y Canoldir a Gwlad y Ddwy Afon, Tigris a Euphrates, neu Mesopotamia. Y mae'r defnyddiau hefyd yn gymharol brin — y Beibl, hen arysgrifau ar furiau a beddfeini, caniadau megis Iliad ac Odyssea y bardd Homer. Yn ddiweddar chwanegwyd at ein gwybodaeth o Hanes bore'r byd yn fawr gan ymchwiliadau ysgolheigion a dargan- fyddiadau, yn yr Aifft, Assyria a Babilon. Dros Iwerydd hefyd» yng nghyfandir mawr y Gorllewin, darganfuwyd temlau ac ar- ysgrifau a brawf fod gwareiddiad a chrefydd De a Gogledd America ganrifoedd lawer iawn yn hyn na idarganfyddiad Columbus ohonynt. Ychydig o sylw, yn syn iawn, a delir yn ein colegau i hanes o fath cyfrolau llafurfawr Prescott ar Mexico a Periw. Yn wir, tlawd ac unochrog yw ein addysg Hanes yn ysgoli'on Cymru: ymddengys mai yn 55 C. C. y cychwyn Hanes, gyda glaniad y Cadfridog Rhufeinig Julius Cesar yng Nghaint, ac nad yw symudiadau byd-eang o fore'r byd hyd heddiw o ddi- ddordeb, ond yn unig rhestr brenhinoedd Lloegr a thyfiant a chwymp yr Ymerodraeth Brydeinig. Fel mater o ffaith "cododd a chwympodd," chwedl Gibbon, hanesydd Rhufain, ndifer mawr o ymerodraethau mwy rhamantus nag Ymerodraeth Prydain ar ei gorau—ymerodraethau'r Aifft, Assyria, Babilon, Persia, Carthagena (yng ngogledd Affrica), Rhufain, Siarl Fawr, a'r Sbaenwyr, a fu'n ymladd â gwyr Elisabeth I am olud America. Pennod ddiweddar yn Hanes y byd yw Hanes Cymru a Lloegr, Alban ac Iwerddon. Yn ôl rhai, parhad o Hanes y Beibl yw hanes bore Prydain: i'r gorllewin y diflannodd llwythau-coll Israel; a hwy yw'r Cymry a wthiwyd gan don ar ôl ton o elyn- ion— Rhufedniaid, Sacsoniaid, Daniaid, Nonnaniaid-i "gorlan y mynyddoedd" a elwir Cymru. Yn ddiau, y mae rhwng yr Iddew a'r Cymro gryn lawer yn gyffredin, o ran Hun a lliw, masnach, crefydd, cân a llenyddiaeth