Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cytiawnder yn yr Hen Destament Rhaid i bob Cristion fod yn ddiwinydd." Hwyrach mai anodd yw i oes ymarferol fel ein hoes ni dderbyn gosodiad fel hwn. Heddiw rhoddir pwyslais a sylw arbennig i dechneg a chynnyrch. Beth a all dyn ei gynhyrchu, ndd beth a gredir ganddo sydd bwysig. Yn yr un modd gosodir pwyslais ar weithred a bywyd y Cristion yn hytrach nag ar ei gredo a'i ddiwinyddiaeth. Ac onid ymresymir yn aml iawn fod diwinyddiaeth yn fwy o rwystr nag o gymorth i undeb yr Eglwys ? Onid diwinyddiaeth a gyfrif am y rhwygo a'r rhannu yn yr Eglwys ? Dyma gychwyn enwad a sect. Ni ellir gwadu pwysigrwydd bywyd y Cristion, nag ychwaith anghofio'r peryglon o roddi pwys gormodol ar ddiwinyddiaeth. Eto dylid cofio mai amod pob gweithredu yw credu. Y dyn sy'n credu sydd yn gweithredu. Yr un modd, yr Eglwys sy'n sicr o'i diwinyddiaeth yw'r Eglwys fyw. Pan gyll yr Eglwys ei chred, cyll ei haelodau, ac wrth golli ei chred, diflanna ei dylanwad ar gymdeithas. Tra gellir sôn am gorff 10 ddiwinyddaeth, eto dylid gwylio rhag mynd i feddwl am ddiwinyddiaeth fel egwyddor hollol ddigyfnewid. Y mae'i ffynhonnell, sef Duw, yn ddigyfnewid, ac y mae digon o gysondeb i ni allu sôn am ddiwinyddiaeth enwad a chyfnod. Eto dylid cofio am y berthynas agos sydd rhwng profiad a diwinyddiaeth. Onid dyma a welir pan dynnir allan gredo­casglu at ei gilydd yr hyn sydd gyffredin ym mhrofiadau dynion yn eu perthynas â Duw ? Nid y bwriad yw mynegi y gair terfynol am Dduw, 'ond yn hytrach mynegá yr hyn a brofodd dynion yn eu perthynas â Duw. Ac os yw'n berthynas bersonol a byw, y mae tyfiant a datblygiad. O ganlyniad gall diwinyddiaeth newid o gyfnod i gyfnod. Hefyd gall credoau un cyfnod fod yn ddieithr ac annealladwy i gyfnod arall. Y mae'n bosibl i ddiwinyddiaeth y Cyffes Ffydd fod yn annealladwy a diystyr i'r oes bresennol, nid yn unig oherwydd diffyg diddordeb mewn diwinyddiaeth, ond oherwydd y gwahaniaeth yn y profiad. Rhaid d'r Eglwys fod yn fyw i anghendon pob cyfnod, a sicrhau fod ei chredoau a'i herthyglau cred yn mynegi profiad y cyfnod.