Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwleidyddiaeth Fyrsil Dywedir weithiau mai un o'r manteision sy'n deillio o astudio'r clasuron Groeg a Lladin ydyw y gellir wynebu problemau syl- faenol mewn cyd-destun sydd erbyn hyn yn rhy bell oddi wrthym i beri bod cyffroadau cyfoes yn ymyrryd â'n barn; a'i bod felly yn haws dod i gasgliad teg a diffindo'r egwyddorion sy'n debyg o fod yn wir ym mhob oes. Mae ambell waith clasurol, bid siwr, wedi mynd yn faes ymladd i ddeolegwyr modern. Swn brwydrau cyfoes sy'n casglu'n fynych o gwmpas Politeia Platon. Ond erys y mwyafrif yn dawel yn llonyddwch eu traddodiad hir. A chredaf fod yr elfen wleidyddol ym marddoniaeth Fyrsil yn fater y ceir budd o'i drafod. Testun dadl heddiw yng Nghymru ydyw perthynas llenydd- iaeth a phrìopaganda. I ba raddau y mae lle mewn llenyddiaeth i ledaenu syniadau neilltuol am wleidyddiaeth, crefydd, moeseg, ac am fywyd yn gyffredinol ? Dadleuais yn y rhagair i Cerddi Cadwgan na fuasai cwestiwn o'r fath yn codi o gwbl ond bai am y mudiad a darddodd yn Ffrainc yn y ganrif ddiwethaf ac a honnodd y dylai celfyddyd fod yn bur." Mae swm helaethaf llenyddiaeth y gwledydd yn amhur dros ben weitliiau'n agored ddidactig, a bron bob amser, pan yw'n llenyddiaeth bwysig, yn cynnig athroniaeth. neu ddysg mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Eithr deil rhai beirniaid yng Nghymru (prin ydynt bellach mewn gwledydd eraill; cymharer llyfr Miss Storm Jameson, The Writer's Situation) i gofìeidio'r aisthetdgiaeth a oedd mewn bri yn y ganrif ddiwethaf. Onid wyf yn camgymryd, dyna safbwynt Mr. Hugh Bevan. A cheir enghreifftiau ohono yn adolygiad y Dr. T. J. M'organ, a gyhoeddwyd yn y cylch- grawn hwn, o Storiau'r Tir Du gan D. J. Williams, Abergwaun. Er bod y safbwynt hwn, i'm tyb i, yn annigonol oherwydd ei fod yn y pen draw yn ysgaru llenyddiaeth a bywyd ac yn gwahodd yr artist i fod yn anghyfrifol, eto nid yw derbyn y safbwynt arall yn golygu na chyfyd anawsterau. A ddylai llenor, er enghraifft, fod yn barod i dderbyn nawdd gwladwr- iaeth a chyda hynny gyfarwyddyd parthed natur a nod ei waith ? Dyna'r sefyllfa sy'n dueddol o ddigwydd, fe ymddengys, yn Rwsia heddiw; eithr nid yw'n gwbl annhebyg i sefyllfa beirdd