Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Crwydro. MAE'n rhyfedd fel y mae geiriau cyffredin yn newid eu hystyr neu'n colli a diflannu. Mi fyddem ná bob amser ers talwm yn arfer trampar am grwydryn, nid tramp fel heddiw. Os gwn i a oes neb yn arfer y teitl hwnnw mwyach. Aeth tramp yn air ffasiynol am yr ychydig gynrychiolwyr sy'n aros o wir grwydr- iaid y ffordd fawr. Wrth gwrs y mae llu mawr o'r rhai a elwir ar yr enw diarth hitch-heicars bellach wedi cymryd lle'r lleill ar y ffyrdd, creadur- iaid pennoeth, coesnoeth, siriol, gobeithiol, trwmlwythog. Fel rhai adar y mae iddynt eu hadeg i ymddangos, a'u tymor i ddi- flannu. Perthynant i deulu'r gog a'r wennol, a gwelir hwy yn heidiau yn ein gwlad tua'r un amser. Adwaenwch hwy nid wrth eu lliw a'u llun-amrywiant yn fawr yn hynny o beth — ond wrth eu hesgidiau cryfion, eu gwynebau glân, a'u bodiau dyrchafedig. Yn lle rhodio a'u llygaid tua'r ddaear, fel yr hen drampar, safant yn benuchel a hoyw ar y croesffyrdd, a'u llygaid effro, disgwyl- gar, yn symud yn gyflym o ddreifar i ddreifar, o garr i garr. Fe'u ceir yn amal hefyd ar waelod allt neu riw, yn edrych yn ôl drach eu cefn, fel gwraig Lot. Nid oes dim ar bedair olwyn islaw eu sylw, nac uwchlaw chwaith, o lorri laeth' i Ostin Sefn­ ag eithrio bws o unrhyw fath. Dirmygant, anwybyddant y rheini yn Hwyr a hollol. Ond popeth arall, ar lun a delw carr, croesawant ef â breichiau estynedig, bodiau fry, a gwên. Eu cas beth yw cerdded. Eu gobaith ffyddiog yw cyrraedd Amwythig, Caerdydd, Llundain, heb roi eu traed ar lawr. Godidog mewn gwirionedd yw eu cred yn naioni a chymwynas- garwch di-ben^draw yr hil ddynol. Nodwedd arall a berthyn iddynt, sy'n eu gwahaniaethu yn bendant oddi wrth yr hen drampar, yw hyn, ni fyddant byth yn cardota bara. O'r holl heicars y digwyddodd i mi eu dal-os gweddus y gair—ar fy nheithiau, ni welais yr un ohonyn-nhw yn bwyta dim, nac yn yfed dim, fel petai ogla petrol yn fwyd ac yn ddiod iddyn nhw. Er hynny maent yn edrach yn dda aç iachus,