Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ychydig Eiriau. CEFAIS gwestiwn yr wythnos hon sydd efallai yn werth ei drafod gan ei fod yn peri trafferth i lawer, sef beth yw'r ffordd orau i gyfieithu "wishful thinking" i Gymraeg. Nid yw'n hawdd cael gair amdano. Rhydd Termau Technegol y Brifysgol dymun- iad," fel cyfieithiad wish, a byddai "dymungar," yn well na dymunol i roi grym y wishful yn y term ffasiynol hwn am feddwl, neu synio, nid yn ôl y gwir ond yn ôl yr hyn a ddymunem fod yn wir, yr hyn a hoffem gredu ei fod yn wir. Hynny yw, imae'n hawydd ni yn anymwybodol yn lliwio'n golwg ar y pwnc, ac yn ein rhwystro i feddwl yn deg. A wnâi awydd-feddwl y tro, tybed ? Byrrach a pherseiniaoh yw, o beth na dymungar-feddwl! Neu, gwell fyth, gellad arfer awydd-synio fel term eithaf hwylus, gan fod synio yn un o gyfystyron meddwl. Gwyddom i gyd beth yw synio am bethau y cnawd." Credaf y gallwn ganiatau i athronwyr ac eraill ym myd y meddwl awydd-synio, neu (heb gysylltnod) awyddsynio. Gobeithio y cyd-syniwn. Amdanom ni, gyffredin bobl, gallwn arfer ein gair ein hunain am y peth, sef breuddwyd gwrach yn ôl ei hewyllys. Gyda llaw, yr un aw- sydd yn awydd ac yn ew-yllys, ond bod yr -y- ar ei ôl wedi effeithio arno. Fe'i cedwir yn glir yn ow-en y beirdd. Gwrthodaf y demtasiwn i helaethu. Hoffwn ailadrodd rwan beth yw ystyr rhelyw, gan fod tuedd mewn rhai ysgrifenwyr i'w arfer yn lle "mwyafrif." Credaf fod yr un cymysgedd hefyd ar lafar. Heb os nac onibai, ystyr rhelyw yw "yr hyn sydd ar ôl," y gweddill: daw o ffurf ar y Lladin reliquus, neu reliquiae. Rhydd Davies, 1632, air diddorol arall am yr un peth, sef gwargred. Dywed ar reliquiae mai'r ystyr yw y relyw, y gweddill, gwargred, yr hyn sy'n ôl, lludw ac esgyrn y meirw; briwsion, crair." (Cf. y Saesneg relic.) Da cofio bod gwangred hefyd yn fyw o hyd yni iaith y De, yn y ffurf gwarged, cf. Myv. Arch. 77, ar y wyrth o borthi y pum mil, Mwy oedd o wargred," nag oedd wedi ei fwyta. Dywedodd yr (Parhad ar dudalen 141.)