Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiad CERDDI CADWGAN. Gwasg Cadwgan, 2/6. Casgliad o ganu gan chwe bardd cyfoes pur adnabyddus ydyw'r gyfrol hon. Y beirdd yw D. R. Griffiths, Pennar Davies, Gareth Alban Davies, Rhydwen Wüliams, a J. Gwyn Griffiths. Y mae peth o'r canu hwn yn arbrofol a braidd yn ymagweddol. Y mae'n rhaid i mi gydnabod na allaf gymryd Caned y Bardd Pennar Davies, a'r gân ddi-<ieitl ac od ei siap ar dud. 38 gan Rhydwen Williams, o ,gwbl o ddifrif. Ond nid felly Tywyllwch Pennar Davies. Ymddengys i mi fod y gan fach hon yn mynegi modd dilys ar brofiad. Syrth y llinellau, fodd bynnag, i raniadau cwbl wahanol pan adawaf i'm clust eu rhannu. Fe ddichon y digwydd hyn oherwydd imi fethu a chipio'r ysmudiadau a greodd y gân. Ond sut felly? Oni ddylai rhithmau'r canu eu cyflwyno i'r darllenydd-a chaniatau bod ganddo glust? Y mae'n rhaid i mi gydnabod na feddaf y syniad lleiaf paham y rhannodd Mr. Davies y llinellau ystyrlawn hyn yn union fel y gwnaeth. Credaf y grymusai'n gwerthfawrogiad o'r detholion o Heilyn ap Gwyn pe cyflwynid y bryddest yn gyflawn. Gellir deall beth a olygai Mr. Pennar Davies pan ddywedodd yn ei dra- fodaeth â Bobi Jones yng n,gholofnau'x Faner, fod rhywbeth tebyg i athrylith yn Rhydwen Williams. Tour de force ydyw ei ganu gan mwyaf, a chân oddi ar ei nerfau. Braidd na thry'n rhysedd ym mhennill olaf "Yr Asgwrn Diwylliedig A galargenais eu henwau i'm pedwarwynt prudd, Nes wylo o'm dwyloer waed Ond Magdalennir fy ngwedd fore'r trydydd Eanner-dydd Pan feseiana fy nghymylau ôl-traed. Ond gwendidau grym a dyfais ac angerdd yw gwendidau Rhydwen Williams. Y canu mwyaf ar.gyhoeddiadol yn y llyfr, i'm tyb i, yw eiddo Gareth Alban ,Davies a thelynegion ,gomu J. Gwyn Griffith, "Rho Grawc^f Machynlleth 1949," a'r gan fach goeth a thosturiol gyda'r colyn miniog yn ei chynffon, Tamar. Canu Gareth Alban Davies yw'r unig ganu yn y gyfrol sydd heb fod i ryw raddau yn hunan-ymwybodol. Cymharer y fydryddiaeth adleisiol hon gan fardd mor wych â Mr. Gwyn Griffith .Ymdaena ymdonna gollwng y gwallt o'th law, y pen o'th fron, y sbonc o'th slbri a'r llinellau cwbl ddiffuant hyn, mor debyg o ran eu patrwm mydryddol, o waith Gareth Alban Davies,