Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Yr Angen am Wreiddiau. Yn wyneb yr angen a erys yng Nghymru am drafodaeth athron- yddol ar seiliau cenedlaetholdeb, fe ddylid rhoi sylw mewn cyhoeddiad Cymraeg i lyfr pwysig y Ffrances ifanc, Simone Weil,-L' Enracinement, a droswyd i'r Saesneg dan y teitl, The Need for Roots.* Y mae'n eglur bellach fod y ddwy broblem yr ymdrinir â hwy yn y llyfr hwn ymlhlith y problemau y mae ar ein byd yr angen taeraf am oleuni newydd arnynt, sef problem arwyddocad y genedl a phroblem arwyddocad gwaith. Y problemau hyn, mewn ieuad cymysglyd â'i gilydd, sydd y funud hon yn ysgwyd sylfeini cyfandir Asia. Canys, yn yr idiom arfer- edig, "problem cenedlaetholdeb a'r broblem eoonomaidd yw'r problemau hyn. Ac y mae gan Simone Weil, i'm tyb i, bethau pwysig iawn Pw dweud amdanynt. Ffoadur ym Mhrydain oedd hi pan ysgrifennodd y llyfr, a daear Ffrainc dan sodlau'r gelyn. Gofynasid áddi gan y Ffrancod Rhydd yn Llundain drafod cynseiliau polisi i'r ddau ampan o gyfarwyddo'r Gwrthsafiad O Lundain tra parhai'r rhyfel, ac o gymryd yr awenau drosodd yn Ffrainc pan ordhfygid Hitler. Y llyfr hwn oedd ei hateb i'w cais. Pan chwiliwn ragdybiau moesol gwleidyddiaeth gwlad neu wareiddiad, fe gawn fod rhyw un syniad yn allwedd i'r cwbl. Yr allweddair yn Ffrainc ac, yn wir, drwy Ewrop oll er y Chwyldro Ffrengig, a fu iawnderau (rights)—yr hyn a hawlia'r unigolyn yn sylfaenol oddi ar law cymdeithas. Fel eilbeth, fe welid fod iawnder un yn tybio dyletswydd, sef dyletswydd pawb arall i barchu ei hawliau. Eithr y mae Simone Weil am newid y drefn hon a rhoi'r flaenoriaeth foesol i'r syniad o ddyletswydd. Dyma'n wir ei chynsaiî moesol sylfaenol. Amodir iawnder gan amgylchiadau a chyflyrau. Ond y mae dyletswyddau'n ddi- amodol am eu bod yn perthyn i fyd uwch na'r byd hwn, byd di- amodau. Nid oes osgoi dyletswydd ond yn unig pan fo dylet- Cyhoeddir gan Routledge & Kegan Paul Ltd. CYFROL CIX RHIP 473. HYDREF, I954.