Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhai Nodweddion Athrawiaeth y Greu yn yr Hen Destament. Cymharol brin yw'r cyfeiriadau uniongyrchol at y Creu yn llenyddiaeth gynnar Israel. Ceir hanes y Creu o'r ffynhonnell Iahwaidd yn Gen. ii, 4b­34, a chyfeiriad ym mendith Melchis- edec at "Y Duw Goruchaf, gwneuthurwr nef a daear" (Gen. xiy, 19, 22). Cynnwys y cyfieithiad Groeg frawddeg yn 1 Bren. viii, 12, Yr Arglwydd a osododd yr haul yn y nefoedd," sonia Amos (v, 8) am Yn y dydd hwnnw yr edrych dyn at ei wneu- thurwr." Eithr ar wahân i ychydig gyfeiriadau fel hyn ni ddywedir fawr ddim am y Creu yn llenyddiaeth y cyfnod cynnar. O'r wythfed ganrif ymlaen y mae'r cyfeiriadau at Iahwe yn Grewr nef a daear yn amlach ac yn fwy pendant, e.e., dywed Jeremeia ei fod yn "gosod y tywod yn derfyn i'r môr trwy ddeddf dragwyddol (v, 212), ac yn xxvii, 5, dywedir yn bendant, Myfi a wneuthum y ddaear, Y dyn a'r anifail sydd ar wyneb y ddaear, Â'm grym mawr, ac â'm braich estynedig, Ac a'u rhoddais hwynt i'r neb y gwelais yn dda." Yn ystod y Gaethglud ac ar ôl hynny ceir mynegiant llawn o'r datguddiad, yn arbennig gan yr Ail Eseia, Pwy a fesurodd y dyfroedd yn ei ddwrn, Ac a fesurodd y nefoedd a'i rychwant?" (xl, 11). Dyrchefwch eich llygaid i fyny, Ac edrychwch pwy a greodd y rhai hyn." (xl, 26.) Ni flina, ac ni ddiffygia Duw tragwyddoldeb, Yr Arglwydd, Creawdwr cyrrau'r ddaear." (xl, 28.) l'r cyfnod ar ôl y Gaethglud y perthyn hefyd hanes y Creu o'r ffynhonnell Offeiriadol (P), Gen. i, 1­2, 4a, a'r cyfeiriadau mynych at Wneuthurwr dyn yn llyfrau Diarhebion a Job. Parodd y ffeithiau hyn i rai esbonwyr haeru na chredai Israel yn Iahwe fel Crewr y bydysawd cyn yr wythfed ganrif (e.e.,