Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dadfythu'r Testament Newydd. Dywedwyd am draethawd Rudolf Bultmann Mytholeg a'r Testament Newydd mai dyma'r her fwyaf a wynebodd y diwin- yddion ers vlawer blwyddyn. Nid problem hollol newydd yw'r un a gyfyd Bultmann, eithr aeth yn broblem losg iawn yn ein hoes wyddonol ni. Tuedd dyn heddiw ydyw colli ei allu i feddwl yn farddonol a metha werthfawrogi iond yr hyn y gellir ei fynegi mewn termau gwyddonol. Y mae'r dyn modern yn feistr ar syniadau diriaethol, ond prin yw ei allu i ddeall ac i werthfawr- 'ogi'r dull ar feddwl a geir yn yr Ysgrythurau. Deil Bultmann fod dull mytholçgol yr Ysgrythurau o gyf- lwyno gwirionedd yn un mor ddieithr i'n cyfoeswyr nes bod yn gwbl ddiystyr iddynt, ac na ddylem ddisgwyl iddynt dderbyn yr Efengyl hyd ries llwyddo ohonom i'w dadfythu. Gorwedd syniadau mytholegol o dan holl ddysgeidiaeth y Testament Newydd, ac nid yw'r syniadau hyn, yn ôl Bultmann, yn arian cyfnewid ar gownter y meddwl modern, a gorfodir y pregeth- wr gan ddulliau meddwl yr oes, i ail ddehongli'r Efengyl mewn termau newyddion. Cyflwynir digwyddiadau trefn ein hiachawdwriaeth gan y Testament Newydd, meddai ef, yn nhermau syniadau mytholeg- ol a fenthyciwyd oddi wrth apocalpyítiaetíi Iddewig, y Crefyddau Cyfrin a Gnosticiaeth. Meddylir am y cread, er enghraifft, fel adeilad tri llawr— sheol isod, y ddaear yn y canol a'r nefoedd uwchben. Ceir sôn am bwerau goruwchnaturiol yn ymyrryd â bywyd dyn, am lywodraeth ysbrydion aflan ac am ddiwedd y byd. Dywedir i Fab Duw ymgnawdoli a gwisgo natur dyn, a thrwy ei ddioddefaint, waredu dyn o feddiant Satan. Cyhoeddir iddo atgyfodi o'r bedd ac esgyn i'r nef, ac y dychwel drachefn oddi yno i farnu'r byw a'r meirw, a dirwyn i ben yr oes hon a dwyn i mewn Deyrnas Dduw. Dywed Bultmann mai myth yw hyn oll a'i fod yn gwbl ddiystyr i ddynion ein hoes wyddonol ICerygma and Myth, td. 140,