Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ychydig amser yn ôl, darllenais rai sylwadau gan lenor a moesegydd o'r Swisdir (mi gredaf) a osodai'n gryno ger ein bron gwestiwn sy'n blino llawer yn y dyddiau hyn. "A ydym ni," meddai, ym mhob man o'r byd wedi ein gwahanu a'n hysgar yn anobeithiol oddi wrth ein gilydd ac yn teithio 'mlaen tua Chaos a Dirywiad?" O ran arddull, a hefyd o ran synnwyr, credaf mai camgymeriad oedd iddo roi tryblith didrefn y Chaos gyntaf, ac yna y Dirywiad a'r Dadfeilio yn dilyn. Fe dybiwn i mai dadfeilio sy'n gyntaf, ac yna y daw y Chaos­ond pwnc o drefn geiriau yn unig yw hynny. Dyma gwestiwn a glywir yn fynych heddiw, a chwestiwn sy'n lliwio dychymyg a gwelediad llenorion mewn llawer gwlad. Fe'i clywir mor fynych yn wir, ac fe'i 'gofynnir gan gynifer o leisiau amrywiol, sonnir cymaint am argyfwng ein gwareiddiad ac am ddirywiad seiliau moesol ac ysbrydol ein cymdeithas, nes i lu o bobl ddechrau credu eisoes fod diwedd y byd yn ymyl. Anaml y dywedir wrthym beth yn union a olygir wrth "y diwedd," ac ni ddi- ffinir y gair byd," a all olygu'r ddaearen gron, neu mewn ystyr ffigurol, ein gwareiddiad ni yn Ewrop, ac o bosibl ei epil yn Unol Daleithiau America ac yn Rwsia. Os y ddaearen ei hun a olygir, dyma, y mae'n debyg, ddiwedd y byd yn llythren- nol a diwedd ar ddyn a'i holl weithiau. Os diwedd ein gwar- eiddiad ni yn y gorllewin a ddarogenir, yna fe bennir diwedd ar gyfnod arbennig yn hanes dyn. Byddai hyn, debyg iawn, i ni sy'n rhan ohono ac felly'n gyfrannog yn bersonol bob un ohonom yn nhynged y cyfnod hwn yn eithaf trychineb, ond er y dangosai diwedd ein gwareiddiad ni fod dyn unwaith eto wedi cymryd caff gwag, ni olygai hynny fod seiliau ffyniant bywyd- egol dyn ar y blaned wedi eu difa, ac na allai'r creadur yn y man ail-adeiladu gwareiddiad uwch a gwell na'n heiddo ni. Ar y cyfan, gan fod y gwyddonwyr mwyaf ystyriol yn ein sicrhau nad ydym wrth chwalu'r atom wedi darganfod o angen- rhaid sut i chwalu'r ddaear, byddaí*n ddiogelach inni gym- Diwedd y Byd.