Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Yr Ysbryd Glân a'r Byd. CLYWIR yn fynych fod y gwahaniaeth rhwng yr Eglwys a'r byd erbyn hyn yn wahaniaeth lled fychan, a bod yr agendor rhyngddynt, a fu ar rai oesoedd yn llydan, yn ein hoes ni, bron a'i chau yn llwyr. Nid y dieithrwch a'r pellter rhyngddynt sy'n dal ein sylw, eithr eu tebygrwydd i'w gilydd. Dyry hyn arnom reidrwydd i feddwl o ddifrif am eu perthynas yng ngolau am- gylchiadau cyfnewidiol y byd, a delfrydau arbennig yr Efengyl ar ei gyfer, fel trefn iachawdwriaeth a bywyd. Pa un ai'r byd a gododd i fyny i safon yr Efengyl ai ynte'r Eglwys a ostyng- odd ei buchedd a'i thystiolaeth i lefel y byd? Ni cheir neb yn unfarn ar bwnc fel yna, ac ni raid i ni yr awron geisio ei benderfynu. Cofiwn yn hytrach nad newydd-beth yw'r berthynas rhwng Cristionogaeth â'r byd. Yn wir dyma un o anawsterau pennaf ein crefydd er y dechreuad cyntaf. Teitl un adran helaeth a gwerthfawr yn History of Dogma, Harnack, yw The Acute Secularisation of Doctrine" fel y cofier, dan ddylanwad yr angen am gymhwyso'r Efengyl at ofynion meddyliol y byd Groeg. A gwelsom mor drwyadl y rhoddes y byd hwnnw ei ddelw ar brif egwyddorion yr athrawiaeth Gristionoigol yn y pedair canrif gyntaf. Yn wir, gwelsom yr un datblygiad mewn dull eithriadol yn y Testament Newydd ei hun, yn enwedig yn Efengyl Ioan, yn athrawiaeth y Logos, ac mewn amryw o ddelweddau eraill. Nid ym myd meddwl ac athrawiaeth y gwel- ir y gyfathrach gliriaf, ond mewn dulliau a safonau bywyd ymarferol. Yn yr Oesoedd Canol cytunwyd ar ryw fath o rannu'r ym- rafael rhwng yr Eglwys a'r byd. Cytunwyd mai gan yr Eglwys yr oedd yr awdurdod llawn a therfynol ar faterion ysbrydol. Ganddi hi yr oedd agoriadau nef ac uffern-yn enwedig agor- Cyfrol CXII. Rhif 482. IONAWR, 1957.