Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Addysg a Chymdeithas Gyfoes.* Y mae gan y byd bob amser ei her i'r sawl a'i hetifedda, ac nid yw hynny'n fwy gwir yn unman nag yn hanes y rhai sy'n athrawon ac wedi ymgymryd â chyfrifoldeb arbennig am yfory a'r to sy'n codi. Yr ymwybyddiaeth y byddwn yn siarad yn bennaf ag athrawon — ae yn arbennig ag athrawon Addysg Grefyddol-a awgrymodd i mi y priodoldeb o ystyried y gorch- wyl sy'n gyffredin inni, a cheisio ei ddeall yn nhermau anghen- ion a phroblemau byd sy'n eithriadol ei gymhlethdod. Petai angen testun arnaf dewiswn y geiriau a ddyfynnwyd yn rhagair i'r Papur Gwyn a ragflaenodd Ddeddf Addysg 1944 — Ar addysg pobl y wlad hon y dibynna tynged y wlad." Pe gelwid am ymddiheurad pellach ni wnawn onid cyfeirio at ragdyb- iaethau sylfaenol gwaith pob athro lle bynnag y bo. Ef, mewn ystyr arbennig, yw ymddiriedolwr cymdeithas, a daw galwad Paul ar Dimotheus ato gyda chymlhwyster eithriadol-"Gwarc.h- od yr hyn a roddwyd i'w gadw atat." Ym mha fath ar fyd y megir ac y meithrinir ein disgyblion ? Efallai mai ein tuedd gyffredin yw bod braidd yn ofnus a phryderus yn ei gylch, a hynny ysywaeth nid yn ddiachos. Edrychwn ar rai agweddau arno. Yn wleidyddol, yr ydym yn byw mewn byd sydd dan ormes anochel a pharhaol yr ymdeim- lad o argyfwng. Argyfwng yw gair cynefin ein cyfnod, a magwyd y mwyafrif ohonom mewn byd wedi hen flino ar ar- gyfyngau-byd a welodd o fewn cylch un genhedlaeth ddau ryfel mawr a fu'n ddinistr terfynol ar yr hen drefn, ac ar unrhyw hunanfodlonrwydd a berthynai iddi-byd anesmwyth, anniddig yn byw beunydd mewn tyndra blin ac mewn arswyd rhag rhyfel arall, rhyfel sydd— oherwydd y bom hydrogen-yn bygwth syl- weddoli'r hyn a ddisgrifiodd Carlyle fel The grand universal suicide." Yn wyddonol a thechnegol, byd y peiriant a'r ffatri ydyw, byd a'i wroniaid yn wyddonwyr, yn dechnegwyr ac yn gynllunwyr. Ei air mawr diweddaraf yw "automatiaeth," a *Aneírchia<l a draddodwyd yng nghyfarfod blynyddol Cymdeithas Addysg Grefyddol yng Nghymru.