Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Meddyliwch am y Pethau Hyn." Meddyliwch am y pethau hyn," sef y pethau a argymell yr Apostol Paul i sylw eglwys Philipi yn ei lythyr ati. Gwna restr o'r pethau mwyaf gwerthfawr, gan annog y Philipiaid i wneud cyfrif mawr ohonynt. Yn ddiwethaf, frodyr, pa bethau bynnag sydd wir, pa bethau bynnag sydd onest, pa bethau bynnag sydd gyfiawn, pa bethau bynnag sydd bur, pa bethau bynnag sydd hawddgar, pa bethau bynnag sydd ganmoladwy, od oes un rhinwedd, ac od oes dim clod, meddyliwch am y pethau hyn." (iv, 8.) Gwna'r Apostol ddefnydd pur aml o'r ymadrodd "y pethau hyn." Weithiau cyfeiria ynddo at y pethau yr oedd ef wrth droi at Grist yn peidio â'u cyfrif o'r gwerth eithaf. Eithr y pethau oedd elw i mi, y rhai hynny a gyfrifais i yn golled er mwyn Crist" (iii, 8.) Bryd arall, cynnwys yr ymadrodd y pethau a heria yn rhinwedd ei berthynas â'i Arglwydd, Beth gan hynny a ddywedwn ni wrth y pethau hyn? Os yw Duw trosom, pwy a all fod i'n herbyn?" (Rhuf. viii, 31, 37.) Ni ellir darllen y rhestr o'r gwerthoedd a garai ef i'r Philip- iaid ymserchu ynddynt a byw yn gyfan iddynt, heb deimlo fod ganddo syniad eang iawn am ddaioni. Cynnwys y cymeriad Cristionogol bob math o ragoriaeth. Dyma ddysgeidiaeth y Testament Newydd yn gyffredinol, ac nis ceir yn fwy pendant yn unman nag yn y rhestr hon o bethau godidog. A rhag ofn ei fod wedi gadael allan ddim ag sydd o wir werth, ychwanega'r Apostol: "od oes un rhinwedd, ac od oes dim clod." A theimlir arwyddocâd llawn yr ychwanegiad pan gofir fod y gair Groeg am rinwedd (arete) yn golygu mwy na'r gair Cymraeg a'i cyfieitha, canys cynnwys bob rhagoriaeth. Cais yr apostol roi lle i'r naturiol a'r deallol, yn ogystal ag i'r moesol a'r crefyddol. Dyma'r unig dro y defnyddia'r gair. Gwir mai yng nghyfeiriad daioni moesol y gwelir uchafiaeth y delfryd Crist- ionogol. Sonnir am y da, y gwir a'r prydferth fel gwerthoedd pennaf bywyd. Gwna'r Iesu y gwir a'r prydferth yn is-wasan- aethgar i'r da, ac i'r da y rhydd y prif Ie yn ei ddysgeidiaeth.