Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerddorion y Cysegr. CLYWSOM lawer o sôn yn ddiweddar am orchestion cerddorol Aberdâr a'r cylch yn ystod y ganrif a aeth heibio, ac am gyf- raniad cyfoethog Gogledd Morgannwg i ddiwylliant ein cenedl mewn canu corawl a chynulleidfaol. Yn swn y pethau da hyn, nid amhriodol fydd ymhelaethu ym mhellach ar waith rhai o gerddorion mawl y cyfnod, a hanoedd mor wirioneddol o'r un adfywiad mawr â'r arwein- yddion corawl a enwogodd draddodiad yr eisteddfod a'r gyng- erdd yn hanner ola'r ganrif. Cynnyrch dadeni'r gwyddorau yn y pump a'r chwe degau oedd popeth o werth a addurnodd ddi- wylliant y gan Gymreig yn ddiweddarach, yn ddamcaniaethol ac yn ymarferol, ac i gymwynaswyr fel Ieuan Gwyllt, Tan- ymarian, John Ambrose Lloyd ac eraill o gerddorion cynnar y ganrif ddiwethaf, yr ydym fel cenedl yn ddyledus am yr hyn o ddiwylliant cerddorol a enillasom mewn eisteddfod a chymanfa yn y cyfamser. Ehangach, efallai, yw'r maes na'r hyn y medrwn ei gwmpasu yn awr, ymfodlonwn felly ar amlinellu gyrfa rhai o gerddorion amlycaf ein Cyfundeb ni yn hanner ola'r ganrif o'r blaen a dechrau'r un bresennol. Soniasom eisoes am gymanfaoedd cynnar Gorllewin Morgannwg; bellach lledwn ein gorwel i gyn- nwys tri cherddor pwysig a addurnodd draddodiad caniadaeth y cysegr Cymreig â disgleirdeb arbennig fel cyfansoddwyr a chyfarwyddwyr ein cymanfaoedd canu. Y rhain oedd William Thomas Rees (Alaw Ddu), John Thomas (Llanwrtyd) a David Jenkins (Aberystwyth). Un o freintiau gwerthfawrocaf fy mywyd oedd cael byw yn ddigon cynnar i ddod i gysylltiad personol â'r rhain, ac i dderbyn rhyw gymaint o argraffiadau o'u hanianawd a'u hathrylith i'm meddwl a'm calon yn fy mlynyddoedd cynnar. Magwyd fi mewn cylch a barchai draddodiad mawl y capel a'r ysgol gan, ac enwau fel Ieuan Gwyllt, Tanymarian, Eleaser Roberts, Ambrose Lloyd, Millsiaid Llanidloes, Alaw Ddu ac eraill oedd y cyntaf a syrthiodd ar fy nghlustiau ym myd cân fy