Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ychydig Eiriau. ANODD fuasai i mi gael hwylusach testun na hwn. Rhydd ddewis i mi ddweud ychydig ar unrhyw beth dan y sêr, neu uwch law iddynt, a hynny mewn difrifwch neu ddireidi, heb i neb gael esgus i gŵyno nad wyf ar fy mhwnc. Rhydd berffaith hawl i mi drin geiriau o unrhyw fath, eu ffurf neu eu hystyr, yn ôl fy mympwy. Ond mae'n rhaid bod yn fyr. Bwriwch fy mod yn ceisio esbonio iaith ein beirdd mewn awdl, a chywydd ac englyn. Gormod o dasg fyddai hynny. Mae honno yn iaith baradwysaidd i'r ychydig. Datblygodd, tyfodd i ateb gofynion crefft. Cabolwyd hi gan oesoedd o gelfyddydwyr i'w pwrpas arbennig eu hunain. Bellach y bardd a'i piau, a gadawn ei chyfrinachau bellach iddo fo. Chwedl Omar (mewn cyswllt arall) yn ôl Syr John, Efô a wyr. Efô a wyr. Efô. Gwell maes i mi, mi debygaf, yw iaith emynwyr yr oesoedd diweddar, plentyn cyfreithlon i iaith hynafol y beirdd, ffrwyth priodas â dulliau'r estron, ac ôl yr estron a'r Cymro arni. I'n pwrpas ni heddiw, hon yw'r iaith sy'n hysbys i'r mwyafrif o wrandawyr a darllenwyr. Dau beth fyddai'n weld yn nodweddu Cymry o bob math. Un ydyw hoffter o ymddiddan â'i gilydd,-sgwrsio, dweud stori ddifyr, ddigri, a'r llall yw'r duedd i dorri allan i ganu mewn cynghanedd-nid cynghanedd y beirdd wyf yn ei feddwl rwan, ond cynghanedd y cerddor. Mewn tyrfa gymysg, os gwelwch chi dwrr o bobl yn hel at ei gilydd i ganu emynau, gallant fod yn Saeson neu Gymry, ond os clywch chi nhw yn ymrannu yn naturiol i ganu bas, a thenor yn ogystal â'r alaw, naw gwaith o bob deg Cymry fyddan-nhw. Mae 'na genhedloedd eraill efallai sy'n mwynhau cerddor- iaeth mewn modd mwy diwylliedig a boneddigaidd na ni. Medr- ant eistedd am oriau i wrando cerddoriaeth aruchel, a chlasurol, gwrando mewn per-lewyg o wir fwynhad, a hynny mewn mud- andod llwyr heb gynnig gwich na bref na semi bref drostynt eu hunain. Nid felly'r Cymro: rhaid iddo fo gael agor ei enau,