Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ond byddai esiampl Pantycelyn, a'r drafferth i gael odl â dyn yn niwedd y drydedd linell yn ddigon feallai i gyfrif am hynny. Sut bynnag, anffortunus braidd yw Bysedd cun," 0 leiaf ym mhob ystyr hysbys i mi. Gair arall sy'n peri trafferth yn y Gogledd yw o'r bron. Nid oes modd cael Arfon a Môn i'w ddeall yn ystyr y De, er bod llawer wedi cynnig eu darbwyllo. Aed swn efengyl bur ar led Trwy barthau'r byd o'r bron. I'r Gogleddwr mae hyn yn golygu fod yr efengyl i ledu dros y byd i gyd, jest iawn, pob gwlad braidd, ond y dim, ac mae'n methu deall pam y cwtogir felly. Nid hynny oedd ei ystyr i'r bardd o'r De, ond y byd i gyd, bob tipyn, y byd i gyd o'i gwrr. Cytuna De a Gogledd ar eu ffordd o ddefnyddio bron "yn ymyl, yn agos, braidd." Yr ydym yn deall ein gilydd yn iawn pan ddywedwn ein bod "bron a marw bron â sythu, bron a thorri'n calon. Ond daw'r un helynt ag o'r blaen gyda defnydd Williams ohono yn y pennill, Mwy yw 'nhrysor Nag a fedd y byd o'i fron. hynny yw, mae ei drysor yn fwy na'r hyn a fedd y byd o'i gwrr, yn gyfan-gwbl, 011 yn gyfan. Felly hefyd, Aed fy ysbryd, Oll o'i fron yn eiddot ti. Mi dybiaf, mai Edmund Prys yn ei Salmau Cân yw yr an- hawsaf i'w ddeall heddiw, a naturiol iawn yw hynny wrth gofio pa oes yr oedd yn eu canu. Wedyn, fe roddwn yr ail wobr am iaith anodd i Oronwy Owen, am ei gyfieithiad o emyn Coll'et: mae'r pedwar pennill yn orlawn o gnau caled i ddannedd yr anghyfarwydd. Ond-rhaid i mi dewi rwan, a disgwyl am gyfle i drin y rheini mewn rhifyn arall. Ifor Williams.