Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Os torrwch ar fy heddwch i Ar fyr mi godaf hyglyw lef I foddi glannau'r Wysg i gyd 'Gan ddechrau'n Aberhonddu dref. Diddorol hefyd oedd yr wybodaeth a gawsom cyn dringo Twmp y Slwch, y bryn sydd yn union y tu ôl i'r Coleg Coffa. Dywed Dr. Savory fod y gaer o'r Oes Haearn sydd ar ben y Twmp yn perthyn o bosibl i ddosbarth y caerau mynyddig gyda gwrthglawdd, a godwyd o dan ddylan- wad Diwylliant A yr Oes Haearn Gynnar yn Lloegr, rywbryd wedi'r drydedd ganrif C.C.-pan ddefnyddiwyd fframwaith o brennau ar led ac i lawr yn nhechneg y Murus Gallicus er mwyn cynnal y cerrig. Ymgais y Parch. Seymour Rees yma yw ein cael i edmygu'r olygfa hardd i bob cyfeiriad, unwaith y down i ben y bryn. Dyma ni wedi ei ddringo'n ddigon helbulus i sicrhau un o'r golyg- feydd prydferthaf. O'n blaen esgyn Bannau Brycheiniog fel gwarcheid- waid tragwyddol i'r rhandir, a'u copaon yn glir yn yr awyr. Islaw i ni Uifa'r afon Wysg yn hamddenol. Gyferbyn â ni ar lethr y dyffryn Uydan ymnytha plas yn ei gaer o goed. Ni chrybwylla ef y Mynyddoedd Du. Gellir eu gweld hwythau i'r Dwyrain. Ond cawsom y prawf terfynol o werth y gyfrol ar ein ffordd i weld Y Gaer. Buom yn holi'r ffordd gyda gofalwr ystâd Mr. E. P. Jones, sef Mr. Parry, Y Coed. Dywedodd Mr. Parry wrthym iddo gael benthyg Brychein- iog gan athro. Pan glywodd ein bod yn aros yn y Coleg Coffa, gofynnodd inni er cof am bwy y codwyd y Coleg. Nid oedd athro na phregethwr wedi llwyddo i ateb y cwestiwn, meddai. Er mai pobl ddwad oeddem ni, gallem roi'r ateb iddo o Brycheiniog, td. 153: "Codwyd hwn i gofio am ddwy fil o offeiriaid a gefnodd ar yr Eglwys Esgobol yn 1662." Addawodd Mr. Parry, Y Coed (tan yn ddiweddar galwyd ei dy The Coed," ond esboniodd fod pobl yn fwy gofalus yn awr am gywirdeb enwau Cymraeg) y byddai trwy gymorth geiriadur Cymraeg a'r ychydig o'r heniaith a oedd ganddo, yn darllen y paragraff am hanes y Coleg. :Dylwn ychwanegu bod nifer o ffotograffiau a mapiau a darluniau da yn gymorth nid bychan i ddyn fwynhau y gyfrol hon. KATE BOSSE GRIFFITHS. Abertawe.