Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Ernest Findlay Scott, D.D. Y mae goleuadau mawr wedi diffodd yn Asia hefyd," meddai Polycrates yn ei lythyr enwog at Victor o Rufain yn 190 A.D. Yr oedd hynny yn yr ail ganrif. Gellir dywedyd yr un peth am yr ugeinfed ganrif, ac yn arbennig am y deng mlynedd hyn. Hirfaith yw rhestr y dysgedigion Cristionogol a hunodd yn ystod y ganrif hon. Haeddant eu cymharu ag unrhyw oleuadau mawr ar unrhyw gyfnod yn hanes yr Eglwys. Dymunwn enwi rhai o'm hen athrawon, sef y gwyr mawr y cefais y fraint o eistedd wrth eu traed a dysgu diwinyddiaeth (neu o leiaf ddysgu caru diwinyddiaeth) wrth wrando arnynt a'u gwybodaeth en- fawr, a'm swyno gan eu doniau dihafal. Peraidd iawn yw eu henwau byth i bawb ohonom sydd mor drwm yn eu dyled. Ni wnaf onid ei henwi gyda thynerwch dwys-Burnett HiLlman Streeter, D. C. Simpson, A. C. McGiÉfert, R. H. Lightfoot, W. B. Selbie, Henry Sloane Coffin, William Adams Brown, C. F. Burney, J. F. Foakes Jackson (" Please shut out that horrible fresh air "), N. P. Williams (" With great respect to the Jewish objector "), K. E. Kirk, L. P. Jacks, Vernon Bartlett, J. E. Frame (a dreuliodd hanner tymor ar y gair Groeg arche yn Efengyl Ioan); a'r mwyaf a'r siriolaf oll ohonynt, Ernest Findlay Scott, o fendigedig goffadwriaeth. Wrth dalu teyrnged iddynt hwy, dylwn ddywedyd fod rhai eto'n fyw ag y mae fy nyled yn gyfartal iddynt­-yn arbennig fy hen athro yn Rhydychen- Canon V. J. K. Brook. Er pan fu farw Dr. Scott dros ddwy flynedd yn ôl, arfaeth- ais ysgrifennu amdano, ond ofnwn fentro rywfodd, gan y byddai raid i'r hyn a ddywedwn fod i raddau yn bersonol ei nodwedd, a thybiwn fod golygyddion Y TRAETHODYDD yn disgwyl i unrhyw deyrnged fod yn fwy gwrthrychol neu yn fwy diwinyddol na hynny. Sut bynnag, mentrais o'r diwedd, gan obeithio gwneu-