Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyfraniad Diwinyddol Thomas Jones, Dinbych (1756— 1820). Ymhlith cedyrn pulpud Cymru nid oes neb a haeddai ei goffáu yn fwy na'r Parchedig Thomas Jones, Dinbych, y dethlir eleni ddaucanmlWyddiant ei eni. Da gennym am y gyfrol a gyhoedd- odd Mr. Frank Price Jones, M.A., ar hanes y gwron hwn, a chredwn y dywed ef y gwir na roddwyd i Thomas Jones hyd yn hyn y lle amlwg a haedda. Cymhellwn ein darllenwyr i bwrcasu'r gyfrol honno. Ein hamcan yn yr ysgrif hon fydd sôn am gyfraniad Thomas Jones i ddadl ddiwinyddol ei ddydd. Cyfnod y dadlau diwinyddol oedd ei gyfnod ef, eglwysi yn cael eu rhannu ac arweinwyr crefyddol y genedl benben â'i gilydd. Bu dadl ffyrnig rhwng Armin a Chalfin, a dilynwyd honno gan ddadl lawn cyn ffyrniced rhwng y Calfiniaid a'i gilydd a barhaodd ar hyd y pum degau cyntaf o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a dyna'r pryd yr amlygwyd yn glir fod Thomas Jones, Dinbych, yn rheng flaenaf diwinyddion ei wlad. Dywedir amdano yn Y Bywgraffiadur, Yr oedd Thomas Jones yn un o arweinwyr mwyaf medrus a dysgedig ei enwad yn y Gogledd, a chafodd ei ordeinio gyda'r to cyntaf o weinidogion yn 181 1. Cymerodd ran amlwg yn nadleuon diwinyddol y cyfnod, gan geisio, trwy gynnig ac esbonio Calfiniaeth gym- edrol mewn llyfrau a phamffledi, arbed ei enwad rhag eithaf- ion Arminiaeth ac Uchel Galfiniaeth (td. 486). Y flwyddyn yr ordeiniwyd Thomas Jones cyhoeddodd Christmas Evans draethawd yn dwyn y pennawd Neilltuolrwydd y Prynedigaeth gan ddatgan ynddo syniadau tra Uchel Galfin- aidd. Ni all hyd yn oed Bedyddiwr honni bod Christmas Evans yn ddiwinydd praff iawn. Yn y pulpud y rhagorai ef, a'i wendid fel diwinydd oedd ei fod yn rhy dueddol 0 lawer i newid ei safbwynt, a bu ei draed mewn mwy nag un gwersyll diwinydd- ol yn ei ddydd. Ond pan gyhoeddwyd y traethawd hwn Uchel Galfin ydoedd a thraethu athrawiaeth Uchel Galfinaidd a wna ynddo. Ei amcan oedd chwilio ymha beth y gorweddai neilltu- olrwydd y prynedigaeth, ac fel yr Uchel Galfiniaid eraill, dadleua