Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cymraeg y Morrisiaid. I. ERBYN y flwyddyn 1677 yr oedd llythyra'n arfer a oedd yn gafael yn y wlad. The number of letters missive," meddai ysgrifen- nwr yn y Gentleman's Magasine y flwyddyn honno, "is now pro- digiously great A letter comprising one whole sheet of paper is conveyed 80 miles for twopence. Every twenty-four hours the post goes 120 miles, and in five days an answer may be had from a place 300 miles distant." Afraid dywedyd mai cyn^iyddu a wnaeth yr arfer byth er hynny a chynyddu'n gyson hyd at ein dyddiau ni. Ond er bod nifer y llythyrau a sgrifennir heddiw'n fwy nag erioed, y mae mwy na digon o reswm dros gredu fod yna gyfnodau wedi bod pryd yr oedd llythyrau'n llawer hwy ar gyfartaledd nag y maent heddiw a phryd yr oedd mwy o ymdrech i sgrifennu llythyrau diddorol mewn arddull gain. Cyfnod felly oedd y ddeunawfed ganrif. Enillodd llawer llenor Saesneg fri parhaol drwy ei ddawn fel llythyrwr. Ni raid enwi mwy nag un, sef Horace Walpole. Dywedir mai ei lythyr- au oedd prif waith ei fywyd ef. Nid yw'n syn ddarfod ei gyd- nabod yn gyffredinol fel the prince of letter-writers." Pan fydd yr holl lythyrau Cymraeg a oroesoedd o'r ddwy ganrif ddiwethaf, wedi eu cyhoeddi, nid yw'n annichon y gwelir fod ambell ysgrifennwr llythyrau Cymraeg wedi ennill ei blwyf fel llenor yn rhinwedd ei ddawn i lythyra. Ond hyd yn hyn nid oes yr un Cymro wedi dod yn agos at ennill cymaint bri fel llythyrwr ag y gwnaeth Morrisiaid Môn, ac yn sicr nid ar chwarae plant y daw neb yn agos at wneuthur hynny, oblegid bu'r brodyr tew, pesychlyd, glew hyn yn llythyrwyr diwyd trwy eu hoes, ac er bod llawer llythyr a sgrifenasant wedi mynd ar goll, cadwyd digon i sicrhau lle anrhydeddus iawn iddynt yn hanes llenyddiaeth Gymraeg. Fel y gwyddys, nid Cymraeg yw iaith eu llythyrau i gyd. Yr oeddynt bob un yn bur hoff o droi i'r Saesneg. Ond a