Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerddorion y Cysegr. JOHN THOMAS, LLANWRTYD. GWYL Undebol Corawl Aberdâr, a arweinid gan Rhys Evans, a Chymanfa Ganu'r Methodistiaid Calfinaidd ym Methania, a gys- ylltid ag enwau Ieuan Gwyllt a John Thomas, Llanwrtyd, oedd digwyddiadau pwysicaf byd cerddorol Gogledd Morgannwg yn hanner oîa'r ganrif o'r blaen. I ni ym mhentrefi'r Gorllewin, y gymanfa oedd y bwysicaf, a'i harwyddocâd pennaf i ddiwylliant caniadaeth y cyfnod oedd mai hi fu'n gyfrwng cyflwyno'r cerddor o Lanwrtyd i sylw'r genedl, megis am y waith gyntaf fel "Cerddor nef-freintiedig y Gymanfa Gymreig," chwedl J. T. Rees yng Nghofiant John Thomas. Mawr yw ein dyled i'r cerddor o Benygarn am godi cwr y llen ar hanes mor ddiddorol a phwysig a Chymanfa 1878, ac egluro inni'r modd yr addasodd John Thomas ei hun yn olyn- ydd i Ieuan Gwyllt yn arweinyddiaeth mawl-ŵyl bwysicaf Cymru ar y pryd, yn ddiau. Blynyddoedd critig yn hanes y Gymanfa Ganu, a chanu cyn- ulleidfaol Cymreig yn gyffredinol oedd y saith degau, blynydd- oedd colli'r cedyrn, arloeswyr a chynheiliaid y sefydliad cysegr- edig yn ystod ei flynyddoedd cain, megis Rosser Beynon, Dafydd Roberts (Alawydd), Dr. Evan Davies (Abertawe), John Ambrose Lloyd, Parch. John Mills (Glan Alarch), a'r mwyaf ohonynt i gyd, John Roberts (Ieuan Gwyllt), a fu farw yn Arfon yn haf, 1877. Colledion oedd y rhain a esgorodd ar broblemau anodd a phwysig yng nghylchoedd mawl ein cenedl, oherwydd llesteir- iwyd cynnydd y ddawn gysegredig yn sylweddol gan brinder doniau cyfarwyddo'r cynulleidfaoedd mewn capel a chymanfa. Yr oedd yng Nghymru ar y pryd ddigon o arweinyddion celf- ydd a fedrai lywio'r cymanfaoedd yn urddasol o safbwynt cerddorol, cerddorion a enillodd enwogrwydd, lawer ohonynt, ar faes cystadleuaeth ein prif eisteddfodau. Ychydig o'r rhain, er hynny, a groesewid gan awdurdodau'r cysegr i bulpud y