Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Enwau Priodol Groeg a Lladin mewn Testunau Cymraeg. Y mae Pwyllgor Adran Glasurol Urdd y Graddedigion yn awyddus i roi hysbysrwydd i'r argymhellion a ganlyn. Ar hyn o bryd ceir cryn anhrefn wrth drin yr enwau hyn yn Gymraeg, a gobaith y Pwyllgor yw y bydd yr awgrymiadau presennol o ddefnydd i ysgrifenwyr. Cafodd y Pwyllgor y fraint o seilio'r argymhellion ar femo- randa a gyflwynwyd iddo gan y Prifathro Syr Emrys Evans (ar yr enwau Groeg) a chan yr Athro Thomas Jones (ar yr enwau Lladin). Cadeirydd y Pwyllgor yw'r Parch. J. E. Daniel, ac ymysg yr aelodau a fu'n ystyried y mater hwn y mae'r Dr. J. Henry Jones, yr Athro J. E. Caerwyn Williams, y Dr. Thomas Parry, yr Athro Evan J. Jones a Mr. John Ellis Jones. I. ENWAU GROEG. i. Defnyddier, pan fo cyfle, y ffurfiau sydd wedi hir gartrefu yn y Gymraeg, e.e., Athen, Aristotlys, Caerdroea, Ercwlff, Homer, Priaf, Pawl. 2. Mewn enwau eraill rhodder fel rheol i'r seiniau Groeg y seiniau sy'n cyfateb agosaf iddynt yn Gymraeg, e.e., Agathon, Antigone, Charon, Critias, Gorgias, Megara, Phaidon, Platon, Socrates, Thiaitetos, Thebai, Scamandros. Weithiau bydd yn well gan awdur ddefnyddio ffurf o'r math yma nag un o'r hen ffurfiau Cymraeg, e.e., Heracles yn hytrach nag Ercwlff. 3. Pwyntiau arbennig: (i) Dylid cadw'r terfyniad -os.