Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

3. Er bod dadl dros Gymreigio'r enwau Lladin eraill yn yr un ffordd â'r rhai Groeg, cyfyd rhwystr o'r ffaith ein bod yn defnyddio'r sgript Rufeinig wrth ysgrifennu'r Gymraeg. Pe newidiem orgraff yr enwau hyn yn yr un modd, byddai ffurf rhai ohonynt yn ymddieithro yn fawr oddi wrth eu ffurf Ladin; e.e., byddai angen ysgrifennu Awreliws Cwintilianws, Waleriws i ddynodi Aurelius, Quintilianus, Valerius. Byddai rhai o'r canlyniadau yn anodd. Mewn argraffiad o destun Lladin, er enghraifft, gyda nodiadau Cymraeg, gwelem Augustus yn y testun ond Awgwstws yn y nodiadau. Cymeradwywn gan hynny gadw'r ffurfiau Lladin. Tybiwn y bydd eu seineg yn gyfarwydd i ddarllenwyr sy'n debyg o ddarllen ysgrif neu lyfr lle y digwydd llawer o'r enwau. J. Gwyn GRIFFITHS, Ysgrifennydd. Yr Adran Glasurol, Coleg y Brifysgoh Abertawe. (Ar ôl darllen llyfr o'r enw gan R. G. Collingwood.) CELFYDDYD. Speculum Mentis. Nid yw na gwir nac anwir Y ddelw deg ei llun; Eithr y mae ei chymen fodd Mor wir a gwir ei hun. A welodd llwybrau daear Batrwm ei glendid hi? Nid yw o bwys i'r ddelw; Nid yw o bwys i ni. CREFYDD. Ni wn pa fodd y trengodd Didranc Dywysog Nen; Ni wn pa fodd y daeth yn fyw Dduw marw ar y pren.