Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiad. SGROLIAU'R MÔR MAiRW. Gan Bleddyn J. Roberts (Gwasg Prifysgol Cymru, 1956). Pris, 8/6. Caxolir prif ddiddordeb llawer o ysgolheigion yr Hen Destament a'r Testa- ment Newydd heddiw ar bwyso a gwerthfawrogi'r darganfyddiad syfrdanol a ddechreuodd yng nghyffiniau'r Môr Marw ddeng mlynedd yn ô!, pan daflodd rhyw fugail 0 lwyth y Ta'amireh garreg ar antur i un o ogofeydd lluosog yr ardal, carreg sydd mor enwog erbyn hyn â'r un a daflwyd gan Ddafydd gynt i orchfygu cawr y Philistiaid. Yn y cyfamser y mae llen- yddiaeth eang a chyfoethog wedi tyfu, a cheir damcaniaethau o bob lliw ac arliw. Ond yn Sgroliau'r Môr Marw gan yr Athro Bleddyn J. Roberts croesawn yr ymgais cyntaf i gyfleu'r hanes ac i bwyso'i arwyddocâd yn yr iaith Gymraeg. O'r safbwynt hwnnw yn unig y mae ymddangosiad y llyfr yn ddigwyddiad o bwys, ac y mae'r awdur wedi gwneud cymwynas fawr â phob Cymro sydd â diddordeb mewn cael goleuni newydd ar bethau sant- aidd, oblegid bod i ddarganfyddiad ,y Sgroliau bwysigrwydd mewn llawer cyfeiriad. Xid gormodiaith yw dweud bod y llawysgrifau amhrisiadwy a'r cannoedd o ddarnau bychain yn cynrychioli'r mwyaf a'r pwysicaf o'r holl ddarganfyddiadau archaeolegol a wnaed ym maes astudiaethau Beiblaidd. Ceir yma hefyd o'ion o ryw gymdeithas neu sect arbennig, a rhwng y llaw- ysgrifau a'r sect y mae gennym ddeunydd gwerthfawr iawn i oleuo cyf- nodau'r Hen Destament a'r Testament Newydd, a'r cyfnod rhwng y ddau. Un rhinwedd a welir ar unwaith yn y llyfr yw'r synnwyr cyffredin y sonia'r awdur amdano yn ei baragraff olaf, fel yr ansawdd angenrheidiol wrth drafod sgroliau'r Môr Marw." Mae hyn yn amlwg drwyddo i gyd, ac os dechreuaf fy sylwadau drwy gyfeirio at atodiad y llyfr gwnâf hynny am y dylid rhoi pwyslais arbennig ar werth y cyfraniad a geir ynddo ym meirniadaeth lem Dr. Roberts ar rai llyfrau poblogaidd sy'n mwynhau cylchrediad eang, ond sy'n gwneud hawliau eithafol a hollol annheg, ac o'r herwydd yn creu braw ym meddyliau llawer sydd heb yr adnoddau a'r cefndir angenrheidiol i wrthsefyll saethau'r feirniadaeth fyrbwyll a'r casgl- iadau disail sydd mor nodweddiadol ohonynt. Amserol iawn, felly, yw'r geiriau sy'n cloi'r llyfr nid oes yma ddim i gymryd lle Gair Duw nac ychwaith y Gair a ddaeth yn gnawd." Rhennir prif gynnwys y llyfr yn ddeg pennod. Yn y bennod gyntaf disgrifir yn gryno hanes y darganfod, a thair ardal yr ogofeydd a glodd- iwyd. Eir ymlaen yn yr ail bennod i amlinellu cynnwys y sgroliau, a'r hyn sydd mor drawiadol yma yw amrywiaeth y darganfyddiadau. Heblaw'r sgrôl gyfan o destun Eseia a'r esboniad sectyddol ar Lyfr Habacuc, cyn- rychiolir bron bob un o lyfrau'r Hen Destament ymhlith llawysgrifau Qumran yn ogystal â thestunau oír Apocriffa a'r Pseudepigraffa.. Yn y