Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Y Pregethwr. Dahlith GOFFA JOHN WILLIAMS. Y MAE yna bedwar gair i'w dweud am y pregethwr ei hun, a'r cyntaf yw ei fod yn wr wedi ei alw i'r gwaith, ac yn credu hynny. Fe ganiatewch un gair mwy personol na'i gilydd, ychydig dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, fe ddiaethum i'r weinidogaeth yn llwyr gredu fod Duw yn fy ngalw i'r gwaith. Yn ystod y blynyddoedd, profais aml siom ynof fy hun, ac ym- wybod fwy neu lai cyson o annheilyngdod mawr, ond yr wyf yn llawen iawn y funud yma yn gallu dweud fy mod yn dal i gredu fy mod wedi fy ngalw. Cefais nabod ar ffrindiau yn athrawon ac athrawesau, yn 'feddygon ac yn weinyddesau, a llawer eraill, a alwyd i'w gwaith: nid oes ynof yr un amheu- aeth am hynny, ac nid yw yn tynnu dim oddi wrth arbenig- rwydd galwad y pregethwr. A phan fo dyn yn credu ei fod wedi ei alw, fe fydd ef yr un pryd yn credu mewn pregethu. Ni allaf feddwl am drychineb a thristwch mwy na bod dyn yn gorfod esgyn grisiau pulpud ddwy-waith y Sul, ac yntau heb gredu mewn pregethu. Rhaid hefyd i'r pregethwr fod yn ddyn iach: gorau oll, yn gwbl iach, gorff, meddwl ac ysbryd. Bendith anhraethol yw iechyd corff, ond fe gofiwn i'r Arglwydd, ymhob cenhedlaeth, wisgo rhai o'i weision mewn cyrff digon bregus. Pwysicach na iechyd corff yw iechyd meddwl ac ysbryd, ajç wedi'r cwbl, delio mewn iechyd yr ym ni onide? Fe ddefnyddiai David Charles Davies eglureb yn un o'i bregethau, dweud bod gwres yr haul yn cyrraedd ein daear ni heb dwymo dim ar y gwagle rhyngom. A oes modd i ni gynnig iechyd i ddynion a ninnau'n afiadh? neu sôn am gymod yng Nghrist a ninnau'n ddieithr iddo ? Y mae gan Garvie air gwerth ei wrando ar