Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Sylwadau ar Gymraeg y Morrisiaid. II. DYMA -fel y idisgrina'r diweddar Mr. Hugh Owen arfer y Morrisiaid fel llythyrwyr: Arferai'r brodyr ateb pob gair yn y llythyrau a dderbyn- ient ac yna holent ynghylch personau a materion eraill o ddi ddordeb iddynt (I. 483, 486; II. 3, 134, 234, 382). Ymddengys eu bod yn gwneud nodiad ymlaen llaw o'r materion i'w cyn- nwys yn eu llythyrau (1. 56, 79—80; II. 58); yn aml, ysgrif- ennent dipyn bob dydd nes y byddai'r bostwraig neu'r llythyr- gludydd yn galw, pan fyddai'n rhaid rhoddi'r gerdd yn y gôd,' chwedl William. Cadwent nodiadau (ac awgrymir bod Richard yn cadw copiau cyflawn) (II. 219) o'r llythyrau a anfon- ent i'w gilydd." Gw. The Journal of the Welsh Bibliographical Society, VI, 49. Fel y gellid disgwyl o dan yr amgylchiadau hyn, y mae llawer iawn o sôn am lythyra a llythyrau gan y brodyr. Yn lle'r gair "llythyr," defnyddid weithíau'r gair "ebystol" Mae aml ebystol wedi myned ar eidh medr (ii. 98), y daw'r ebystol o hyd i chwi (ii. 469). Gelwir y weithred o sgrifennu yn "sgrafellu" o leiaf un waith (ii, 173), mewn man arall fe'i gelwir yn "diwynnu sît o bappur (ii, 62), ac mewn man arall eto yn "britho hanner llen" (ii, 357). Rhaid oedd wrth bapur go dda i sgrifennu ar ddwy ochr y ddalen: "cymerwch bappur a fo gwell ei drwch y tro nesaf, fel y .galloch ei sgrifennu wyneb a chefn (ii. 76). Gellid galw cynnwys ysgrifenedig llythyr yn "brygowthen" (ii. 70) neu hyd yn oed yn "strodwm" (i. 288), ond nid ysgrif- enedig oedd pob cynnwys. Achubai'r brodyr y cyfle i anfon hadau a phetheuach eraill gyda'r newyddion. Llythyr "gweil- ydd" (ii. 575) neu "weili" oedd un na chynhwysai ddim ond mater ysgrifenedig: na yrrwch mono yn weili da chwitheu" (i. 168).