Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

laith a Chymdeithas. MAE'n rhyfedd cyn lleied o sylw a roes cymdeithasegwyr hyd yn hyn i iaith ac i bwysigrwydd iaith mewn unrhyw gymdeith- as o ddynion. Mae'n amlwg fod newid, ehangu, a chwtogi ar yr eirfa a ddefnyddir yn gyffredin mewn iaith yn adlewyrchu newid ym mywyd y cymunedau sy'n defnyddio'r iaith honno, ond ychydig o astudio a fu hyd yn hyn ar newid mewn iaith fel adlewyrchiad o newid mewn cymdeithas. Datblygodd iaith am fod dynion am gymdeithasu â'i gilydd, ac y mae iaith, ar y naill law, yn gynnyrch neu ganlyniad byw mewn cymdeithas, ac ar y llaw arall, yn gyfrwng pob cym- deithasu rhwng dynion â'i gilydd. Trwy gyfrwng iaith y mae dynion yn cyflwyno'u anghenion, eu syniadau a'u dyheadau i'w gilydd, ac iaith yw syMaen yr holl weithgareddau cymdeithasol yr ydym i gyd yn rhoi bod iddynt ac yn ymateb iddynt wrth fyw mewn cymunedau, wrth gydweithio ac wrth gyfathrachu â'n gilydd. Ni byddai'n bosibl i ni ddylanwadu na pherswadio, na chanu clod nac enllibio, na thaflu gwawd na chymeradwyo, nac estyn gwahoddiad na chroesawu, na thalu teyrnged na phro- testio he'b iaith. Iaith yw cyfrwng pob gweithgaredd cym- deithasol, ac y mae iaith nid yn unig yn glwm wrth bob cym- deithas, ond hefyd yn sylfaen iddi. Mae dyn yn rhwym o gymdeithasu i ryw raddau â dynion eraill, onid yw'n byw bywyd meudwyaidd heb gyfathrachu ag unrhyw berson arall o'i oes ef ei hun neu o'r gorffennol. Golyga cymdeithasu fod yr unigolyn o ddyn yn dod i gysyllt- iad rhywfodd â dynion eraill, ac iaith sy’n ei alluogi i bontio'r bwlch rhyngddo ef a'i gyd-ddyn. Gall iaith, trwy gyfrwng radio a record, bontio unrhyw bellter daearyddol erbyn hyn, a gall y gair ysgrifenedig ein cysylltu â dynion a fu'n byw gan- rifoedd o'n blaenau, a'i gwneud yn bosibl iddynt ddylanwadu arnom. Rhywbeth a berthyn i gymdeithas ac i gymunedau yn hytrach mag i unigolion yw iaith. Pe digwyddai i blentyn gael ei fagu heb gael cyfle i gyfathrachu ag unrhyw berson arall, ni ddysgai iaith. Nid yw iaith o un gwerth i ddyn mewn unigedd lle na fedr dderbyn unrhyw mèges oddi wrth ddynion eraill trwy