Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bywyd a Gwaith J. K. Huysmans (I848—I907.) HANNER can mlynedd i Fai I2fed eleni y bu farw Joris-Karl Huysmans, un o nofelwyr crefyddol blaenaf Ffrainc ar ddech- rau*r ganrif hon. Oddi ar y rhyfel diwethaf deffrowyd diddor- deb mawr ynddo bob ochr i'r Sianel, a bu'n destun ymchwil academig; ac yn wir, dymunol ydyw canfod iddo o'r diwedd ymgodi o'r dinodedd hwnnw sydd fynychaf yn dilyn marwolaeth awdur. Mae llawer o'i nofelau cynnar, a ysgrifennwyd cyn ei dröedigaeth i'r ffydd Gatholig yn 1892, ynghyd â'i weithiau crefyddol diweddaraf, newydd eu cyfieithu i'r Saesneg. Heb- law hynny, hwyrach mad'r deyrnged fwyaf ellid ei rhoi i'r dyn a'i waith yw'r ffait½h y coleddir ei goffadwriaeth yn barchus gan Gymdeithas J. -K. Huysmans, y Gymdeithas fyd enwog a gweithgar honno ym Mharis­y ddinas oedd mor annwyl iddo. Llywydd y Gymdeithas lenyddol lewyrchus hon yw'r gẃr hyglod hwnnw, Maurice Garcon 0 Académie francaise; a'r ysgolhaig Pierre-Marie Lambert a etholwyd yn ddiweddar yn Chevalier de la Légion d'Honneur gan lywodraeth Ffrainc yw ei hysgrifen- nydd diflino. Dymunol yw sylwi bod rhai Cymry ymhlith ei haelodau. Cyn ystyried rhai o'r rhesymau dros boblogrwydd yr awdur heddiw, dichon mai buddiol fyddai taflu cipolwg ar fraslun o hanes ei fywyd. Ganed Huysmans Chwefror 5, I848—blwydd- yn dyngedfennol chwyldroadau Ewrop—ym Mharis, a Pharis oedd yn ferw ,gan ansicrwydd gwleidyddol, llenyddol a chref- yddol. Un o Bréda yn Isalmaen oedd ei dad, Victor-Godfried- Jean, cynllunydd maenargraffol wrth ei alwedigaeth. Symud- odd tua 1840 i Baris, lle cafodd farchnad barod i'w waith. Bu teulu Huyamans am ganrifoedd yn arlunwyr, a'u priod waith oedd peintio llyfrau offeren la thrwy hynny, sefydlwyd perthynas agos â'r Eglwys—ffaith a roes gryn dipyn o arwyddocâd i Jlymyddoedd olaf yr awdur. Ym wdr, mae gan un o'i gyn- deidiau, Cornélius Huysmans, sef Huysmans de Malines (I648— 1727), rai o'i luniau yn Amgueddfa Louvre.