Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Am Huysmans ei hun, mae'n awdur talentog, un a gafodd lwyddiant heb erioed ei chwennych, ac un a haeddodd fawredd, nid yn unig ar ôl ei ddydd, ond yn ei ddydd. Yn ystod ei fywyd daeth i'w ran y boddhâd o ganfod ei enwogrwydd fel nofelydd a gwir Gristion yn lledu gyda chyflymdra rhyfeddol, gartref ac oddi cartref. Yr oedd, ac y mae o hyd, yn broffwyd a anrhyd- eddwyd ac a anrhydeddir yn ei wlad ei hun; a dyma'n ddiamau ei uchafbwynt—uchafbwynt Huysmans, y dyn a'r nofelydd. W. EIRWYN THOMAS. Port Talbot. Ychydig Eiriau. MAE arnaf flys awtgrymu'n gynnil yn y tipyn gofod a ganiateir i mi heddiw, nad oes digon o ddefnyddio yn ein plith ar waith cyfieithwyr diweddar o'r Beibl. Credaf, pes gwnelid, yr arbedid cryn benbleth a thaeru am ystyr ambell adnod. Anodd iawn, efallai annichonadwy, yw cyfieithu'n berffaith o un iaith i'r llall. Nid oes gyfystyron hollol wrth law. Mae aml ystyron i'r rheini pan ddigwyddont; ac nid oes dewin a wyr pa'r un ohonynt yr ydym i'w dderibym. Er enghraifft, cymerer Galatiaid vi, 2: Dygwch feichiau eich gilydd, ac felly cyflawn- woh gyfraith Crist." Ond sut mae cysoni hyn â'r bumed adnod o'r un bennod ? Yno, ar ôl annog pawb i brofi ei waith ei hun, fel y caffo orfoledd ynddo ei hun yn unig ac nid mewn arall, cawn Paul yn siarsio'n bendant, Pob un a ddwg ei faich ei hun." Ie, ond geiriau gwahanol sydd yn y Groeg, er bod y naill a'r llall yn golygu baich. Rhoir y gwahaniaeth rhyng- ddynt yn eithaf twt yn y Geiriadur Beiblaidd yn y cyntaf ceir bare "pethau trymion," ac yn yr ail ffortion "y pwn neu'r pac a ddygai gwr rhwng ei ys½gwyddau ar ei daith." Rihy syml yw hyn, efallai, gan fod ffortion yn golygu weithiau "llwyth llong, cargo," megis yn Actau xxvii, 10, yn hanes llongddrylliad Paul ar ei daith i Rufaim. Eto dyry'r prif wahaniaeth rhwng y geir- iau yn y testun: ambell dro daw pwysau llethol 0 drwm ar