Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau. PONT Y CANIEDYDD, gan Alun Llywelyn-.WiUiams. Gwasg Gee, 1956, tt. 72, pris 5/ Yn ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Cerddi 1934 — 1942 (Foyle, 1944), gwelir Mr. Alun Llywelyn-Williams fel bardd ifanc addawol yn llawn o aflonyddwch creadigol ac yn pryderu am enaid y gymdeithas ddiwydiannol. Yn ei ail gyfrol, sef hon, cyflawnodd lawer o addewid ei gyfrol gyntaf, ond mewn ffordd hollol wahanol i'r disgwyl. Collodd rym y nwyd ysbrydol a ysgogodd ei ganu cyntaf; ond aeddfedodd ei gynheddfau barddol mewn synwyrusedd a manylrwydd mynegiant, a llwyddodd i gyfleu yn gelfydd amrywiaeth o brofiadau. A yw'r ennill yn fwy na'r golled? Dibynna ar yr hyn a geisiwn gan fardd. Mae yn y gyfrol hon lawer i swyno unrhyw ddarllenydd sy'n chwilio am geinder ffurf a modd. Datblygodd rheolaeth y bardd ar y wers rydd, ac ar dro medr ddal awyrgylch <munud-awr yn rhyfeddol, a chyfleu ymagwedd ehangach yn chwim, megis yn y gerdd nodedig a rydd ei henw i'r gyfrol: Ninnau'r tresmaswyr o'r oes betrusgar, rhagflaenwyr dinistr terfynol y peilot, y gweddill bychan a boenydir rhwng dau ddiwylliant, mwynhawn berarogl pell y blodau crin, a lled-synhwyro'u hystyr. Nid yw'r gyfrol yn amddifad o feddylgarwch ac o ddehongli sensitif, megis yn yr adran ar Ryfel." Yma portreadir sefyllfaoedd trist yn gynnil ac yn hunan-feddiannol. Efallai y temtir dyn i deimlo, fodd bynnag, fod yn y cerddi hyn brydferthwch anaddas; nid oes awgrym o'r canu stormus ac o'r ing enaid sy'n nodweddu amryw o feirdd rhyfel Lloegr a'r Almaen yn yr un cyfnod. Gellir dadlau bod y bardd o Gymro wedi llwyddo'n well i ymlonyddu yn y ddrycin. Mwyn yw marwnad ei linellau iach: Y bechgyn 'ddaliwyd gan yr Angau glwth- tyner fo cwsg eu hir alltudiaeth hwy: hiraethwch, frodyr, pa le bynnag 'boch, dan lwch dinasoedd nad adferir mwy. A yw'r mwynder hwn yn rhy iach ? Mewn ffyrdd eraill awgrymir bod y bardd yn cau'r mwdwl. Mae hynny'n siom i mi. Ffarweliodd â'r terfysg boreol ac yn ei le daeth rhyw ddoethineb soffistaidd sy'n bodloni ar ddweud bod bywyd yn ansicr ac yn gymhleth: oblegid hysbys mwy nad craig mo'r Graig.