Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(Nid yw cwpled terfynol y soned hon yn argyhoeddi.) Ceir un gerdd yn dechrau-a cherdd gref ydyw- Yn y dyddiau dolurus hynny, gwyddem pwy oedd y gelyn Os chwalwyd y gwybod sicr hwnnw, eto disgwyliwn welediad heblaw yr ymdeimlad o ddadrithiad syml. Gormod, efallai, fyddai honni bod negydd- iaeth a nihilistiaeth wedi trechu'r bardd. Erys ei fwynderau ysbrydol personol os anobeithiodd am yr hil. Ond anodd gweld posibilrwydd dat- blygiad pellach gan mor gaboledig derfynol yw'r anffyddiaeth hon. Rhaid gobeithio y daw i fardd o gynheddfau mor gyfoethog ryw brofiadau cyn- hyrfus eto-träedigaeth grefyddol, efallai, neu gyffro'r cenedlaetholdeb cyfoes. Rhaid parchu'n gyson ei ddiffuantrwydd. Ceir hefyd yn y gyfrol nifer o arbrofion deniadol mewn mydr ac odl os rhywbeth, nid yw'r wers rydd mor hoff ganddo bellach, er ei fod ar ei orau, mi gredaf, yn y cyfrwng hwnnw. Hapus yw'r cynllun yn Dan y Bont sy'n dechrau Pa liw sy'n ddawn i'th ddyfroedd, Fenai fireindon, pan gilia'r dydd i'w hafan a bwrw'i belydrau lleddf Dywed Mr. Llywelyn-Williams mewn nodyn, Y patrwm cychwynnol yw telyneg Ausonius Quis color ille vadis, seras cum propulit umbras Hesperus et viridi perfudit monte Mosellam!" Cyfeiria at Mediaeval Latin Lyrics Helen Waddell. Dechreua'i throsiad hi fel hyn What colour are they now, thy quiet waters? The evening star has brought the evening light (Llinell dda yw'r gyntaf, ond gwan yw'r ail.) Gwelir mai hexametrau sy gan Ausonius, ac mai patrwm iambig Miss Waddell a ddilynodd Mr. Williams. Ond efallai mai at y syniad cychwynnol y cyfeiria. J. GWYN Grifìiths^ Aoertawe. CHRISTIAN ESSAYS IN PSYCHIATRY. Golygwyd gan Philiŷ Mairet; Gwasg yr S.C.M. 15/ ADJUSTMENT THROUGH FAITH. Erastus Evans; Gwasg Eỳworth. 1/ Tua deng mlynedd ar hugain yn ôl awgrymodd Archesgob Caerefrog i feddygon a chlerigwyr gyfarfod er mwyn sicrhau gwell cyd-ddealltwriaeth rhyngddynt yn y dasg o wella ac atal afiechyd. Gwrthodwyd yr awgrym gan y meddygon y pryd hynny, ond erbyn heddiw y mae eu hagwedd wedi newid, a cheir mewn llawer lle gyd-drafod a chydweithrediad rhwng gweinidogion a meddygon a seicolegwyr. Sylweddolir yn fwy nag erioed o'r blaen y berthynas agos y sydd rhwng cyflwr corff a chyflwr meddwl