Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Goronwy Owen yn 1757. DAU can mlynedd yn ôl— 1757 — dyna'r flwyddyn, a'r dyddiad oedd y deuddegfed o Ragfyr. Y lle oedd bwrdd llong, sef y Trial, a oedd, gyda rhyw dri chant o longau eraill, yn aros yn Spithead, ac yn paratoi i hwylio dros gefnfor Iwerydd. 'R oedd y Trial wedi cael tywydd drycinog eisoes wrth ddod i lawr hyd y Sianel, ac wrth gwrs, nid oedd dim ond tywydd tymhestlog i'w ddisgwyl ar y daith. Ar y llong yr oedd clerigwr o Gymro, bychan o gorffolaeth, tywyll ei bryd, du ei wallt a gloyw ei lygaid. Nid oedd hwn yn edrych ymlaen o gwbl at y daith. Yn wir, er nad oedd ef na'i wraig na'r un o'i dri phlentyn wedi dioddef dim oddi wrth salwch y môr hyd yn hyn, digon anghysurus oedd hi arno ef a hwythau, a'r anghysur oedd yn pwyso drymaf ar ei feddwl wrth iddo eistedd i sgrifennu ei lythyr olaf at ei gyfaill Richard Morris cyn gadael y wlad. Prin fod neb o'i gyd-deithwyr yn gwybod mai'r clerigwr hwn oedd bardd Cymraeg mwyaf ei oes. Ond dyna pwy oedd. Disgwyliem i Oronwy Owen fod yn llawn hiraeth wrth feddwl nad oedd yn debyg o glywed nemor ddim Cymraeg o hyn ymlaen; nid oedd yr un o'i fechgyn hynaf, Robert a Goronwy, yn ei medru hi, ac fel baban deng mis oed, nid oedd Owen, yr ieuaf, yn parablu'r un iaith, ac nid oedd fawr fwy na chrap ar Gymraeg gan "yr hoyw wraig Elin rywiog olau." Disgwyliem iddo fod yn brudd wrth feddwl ei fod yn mynd ym- hellach nag erioed oddi wrth ei fro enedigol, Mon doreithiog a'i mân draethau," a bod un arall o'r dymuniadau a fynegodd yn Awdl y Gofuned, heb ei sylweddoli. Rhaid ei fod yn teimlo rhyw edifaredd wrth feddwl nad oedd ei farddoniaeth mewn print, oblegid yr oedd yn falch iawn o'i ddawn brydyddol ac o'i ddysg, ac yr oedd yn gwerthfawrogi'r ddeubeth. Wrth reswm, heb ei eni'n un o blant yr Awen, ni byddai'n fardd o gwbl, ond, fel y gwyddai ef, i wneuthur bardd da, yr oedd raid wrth hyfforddiant. A gallai ef ymffrostio yn