Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llenyddiaeth Grefyddol Ffrainc. Am yn agos i fil o flynyddoedd cafodd meddwl Gorllewin Ewrop fynegiant ffyddlon ohono ei hun yn llenyddiaeth Ffrainc. Efallai y bydd y crynodeb hwn yn help i ddangos hyn yn ei wedd grefyddol. Ar derfyn y nawfed ganrif dechreuodd llenyddiaeth Ffrainc lafarganu gydag emyn o fawl i'r Santes Eulalie. Cantigl seml iawn yw hon, ond yn llawn o orfoledd a llawenydd. Nodyn o fuddugoliaeth sydd yma-buddugoliaeth yr Eglwys Fore wrth godi ar adfeilion paganiaeth Rhufain. O waed merthyri fel yr eneth hon o Sbaen y daeth uerth a bywyd i'r Eglwys gynnar. Ni chollwyd byth y nodyn hwn o arwriaeth yn llenyddiaeth grefyddol Ffrainc. Bu hanes Eulalie yn symbol-symbol o ffydd yn creu nerth lle bu gwendid, symbol o burdeb yn ymosod ar gadarnleoedd dichell a phechod. Seintiolaeth yw testun mawr llenyddiaeth grefyddol gynnar Ffrainc. Yr oedd buchedd y saint yn ysbrydoliaeth i Gristionog- ion y cyfnod hwnnw a oedd yn wynebu ar ddyfodol ansicr a chreulonderau enbyd. Dyna Fuchedd Léger, er enghraifft, gyda'i rhestr o arteithiau ofnadwy-torrwyd tafod yr esgob a chafniwyd allan ei lygaid; er hynny ni ddofwyd ei ysbryd a'i ffydd; bu'n ffyddlon hyd y diwedd. Dwyster yw cyweirnod Buchedd Alexis-dyn ifanc yn gadael teulu, perthnasau a chyf- eillion er mwyn dilyn a gwasanaethu'r Meistr Mawr. Oes o weithrediadau ymarferol i raddau helaeth oedd yr oes honno, oes o adeiladu. Aeth y cymdeithasau crefyddol ati i godi eglwysi ac abatai, a'r crefftwyr yn dyfal greu ffenestri gwych a cherfluniau er mwyn corffori mewn coed a maen a haearn ddyheadau'r enaid. Un agwedd ar y gweithgarwch yma oedd y pererindodau i wahanol ganolfannau. Ar eu ffordd i'r greirfa oedd ganddynt mewn golwg, byddai'r pererinion yn aros mewn ysbytai arbennig, ac yn y rhain byddai beirdd yn adrodd storïau i'w diddori. O amgylch ffyrdd y pererinion felly fe dyfodd y rhwydwaith o ganeuon arwrol-y gestes. Yr oedd rhai ohonynt yn storiau syml, tyner a theimladol, a'r cefndir yn wyrthiol ac yn agos iawn at yr uwchnaturiol. Un felly yw hanes