Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Canmlwyddiant Syr Robert Jones 1857— 1933. DYWEDIR yn ami y dyddiau yma — Wele wr na sylweddolodd Cymru ei fawredd "-a thrist meddwl mor aml y mae hynny'n wir; ac felly y gellir dweud i raddau am Syr Robert Jones. Yr oedd Syr Robert yn un o ddynion mwyaf y ganrif a chymer ei Ie yn urddasol ymhlith arwyr meddygol yr oesau. Llawen- ydd yw cofio mai Cymro trwyadl ydoedd, ac y byddai bob amser yn falch o'i wreiddiau Cymreig. Mae ychydig dros gan mlynedd er pan anwyd Robert Jones, a bu farw bron bum mlynedd ar hugain yn ôl. Cefais y fraint o'i weld a'i glywed ychydig weithiau ac ni wna amser byth ddileu yr argraff a wnaeth ar fy meddwl. Prin y disgwylir i mi amcanu tynnu darlun cyflawn ohono, ond ymdrechaf roi cryn- odeb o brif ffeithiau ei hanes gydag amlinelliad o'i waith aml- ochrog, ac yna ceisiaf gyflwyno i chwi syniad am gyfoeth ei bersonoliaeth. Brodorion o'r Rhyl oedd ei dad a'i daid (Robert Jones oedd enw'r ddau); a merched o Ruddlan oedd ei fam a'i nain. Ganed ef yn 1857, yr hynaf o bump o blant. Adeiladydd llwyddiannus yn y Rhyl oedd y taid a ffromodd pan wrthododd y tad uno yn y busnes adeiladu, ac anhapus ddigon a fu perthynas y ddau â'i gilydd o'r herwydd. Oerodd eu teimladau ymhellach gan i'r mab benderfynu priodi yn erbyn ewyllys ei dad, a'r diwedd fu torri'r cysylltiad â'r hen gartref, a phan oedd Robert Jones yn bump oed cawn hanes ei dad yn troi tua Llundain i chwilio am waith fel newyddiadurwr. Ymddengys i'r teulu bach- r oedd yno bump o blant erbyn hyn-ddioddef cyni mawr ar y dechrau, gan nad oedd gan y penteulu waith sefydlog. Yr oedd y tad yn weithiwr hyderus a diwyd, ac er gwaethaf caledi ac anaws- terau gallai fwynhau bywyd, a cheisiai drefnu i'w deulu gael popeth hyd yr oedd modd. Ymhen amser daeth tro ar fyd a daeth gwell trefn ar ei amgylchiadau, ac felly cafodd Robert Jones bob cyfleustra i ehangu ei feddwl ar wahân i'w addysg ffurfiol yn yr ysgol