Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerddorion y Cysegr. DAVID JENRINS, ABERYSTWYTH. AETH dros ddeugain mlynedd heibio bellach er pan fu fárw David Jenkins, Mus.Bac., Aberystwyth. Cofiwn amdano fel un o ddoniau blaen byd cerdd Cymru ym mlynyddoedd troad y ganrif, yn gyfansoddwr, beirniad ac arweinydd cymanfaol. Cymharol ychydig o glod a dalwyd iddo ar y pryd fel cymwyn- aswr cerddoriaeth a chaniadaeth y cysegr, naill ai yn y wasg neu yn ei Gofiant a gyhoeddwyd yn ddiweddarach yn y tri degau. Soniwyd llawer am ei orchestion fel cyfansoddwr, ac am ei safle urddasol fel beirniad eisteddfodol ac athro cerdd Coleg y Brifysgol yn Aberystwyth yn ystod ugain mlynedd olaf ei oes. Hwyrach mai ei lwyddiant digymysg yn y meysydd pwysig hyn, i olwg ei feirniaid, a gysgododd ddisgleirdeb ei gyfraniad i dra- ddodiad yr emyndon a'r anthem, fel awdur a chyfarwyddwr ein cymanfaoedd canu ar hyd y blynyddoedd. Fy atgof cyntaf amdano oedd fel awdur y gytgan gyffrous "Wyr PhiHstia," a fu'n boblogaidd iawn yng nghaniadaeth corau meibion Cymru yn yr wyth degau. Un o gytganau'r gantawd Dafydd a Goliath," gwaith cynnar David Jenkins, oedd hwn, a fu'n ddarn prawf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llundain yn 1887, ac mewn ugeiniau o gystadleuthau taleith- iol a lleol yn niwedd y ganrif. Deuthum i wybod rhagor am- dano pan gychwynnodd ef ac Emlyn Evans olygu'r Cerddor yn 1889, a mynd ar gynnydd fu hanes fy adnabyddiaeth ohono hyd ei farw yn 191 5. Fel John Thomas, cynnyrch bywyd hollol wledig oedd David Jenkins, ganedig ym mhentref Trecastell, Sir Fryoheiniog, yn niwedd 1848, ac yn fab i gylchwr o'r enw Dafydd Jenkins a'i wraig Anne. Cyffredin oedd amgylçhiadau'r teulu; a phrin fu manteision addysg gynnar y plant, bedwar ohonynt. Dangos- odd y bachgen dueddiadau cynnar at gerddoriaeth, gan fanteisio ar wersi a gyfrennid yng nghyfundrefn y Tonic Solffa yng nghapel y pentref yn nechrau'r chwe degau. Llwyddodd yn gyflym yn hon, a chyn ei fod yn ugain oed graddiodd yn A.C.,