Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Y Tracchodydd," 1845-1895. WEDI gorffen llunio Mynegai i Gymru (O.M.E.) ar gyfer Eis- teddfod Genedlaethol Dolgellau, 1949, edrychais o'm cwmpas, fel Alexander Fawr gynt, gan chwilio am bethau eraill i'w gorchfygu. Disgynnodd fy llygad ar gyfrol o'r Traethodydd a meddyliais, wrth gofio'r mwnglawdd o drysorau a gladdwyd yn ei gan cyfrol a mwy, mai gwych o beth a fuasai gwneud mynegai iddynt, ac heb ymgynghori â neb na chwaith sylwedd- oli maint y gwaith a baich y llafur, euthum ati i hel cardiau neu slips; benthyca'r cyfrolau, eu darllen y naill ar ôl y llall gan godi enwau personau, lleoedd, a materion, etc. Wedi bod wrthi yn ysbeidiol am ddwy flynedd daeth testunau Eisteddfod Genedl- aethol Aberystwyth, 1952 i'm llaw, a gwelais yn y gyfrol gys- tadleuaeth Mynegai i'r Beirniad" (J.M.J.). Rhoddais y Traethodydd o'r neilltu, a gwneud cyfaill o'r Beirniad: llunio Mynegai i hwnnw. Denwyd fi wedyn i wneud Mynegai i'r Llenor ar gyfer Eisteddfod Pwllheli (1955), a bu hyn yn dranc i'w bwriad ynglŷn â Mynegai'r Traethodydd; a phaciwyd y slips yn bentwr ar bentwr i'r atic. Yn y cyfamser trawyd fi'n wael, ac ni fu fawr o drefn ar fy iechyd ers tair blynedd. Wedi bygwth llosgi'r slips a oedd yn hel llwch a phryfed, meddai aelod o'r teulu wrthyf ar ddechrau'r flwyddyn 1957, a hynny mewn liais awdurdodol Be' 'dach chi am wneud efo'r hen gardiau budr sydd yn y llofft 'ma?" Wel, ie, 'dwn i ddim yn wir." "Na wyddoch," meddai, wedi lliniaru dipyn, gan ofyn a fedrwn tybed wneud Mynegai o'r cyfrolau a ddarllenais-"rhag i'ch llafur fynd yn ofer." Wel, ie, eitha syniad, a sylwais fod y gorchwyl ar ganol cyfrol L (1895). Ail gydiais yn y gwaith, gorffen dar- llen y gyfrol hon, hel pentwr o'r cardiau i'r stydi, a mynd ati i ysgrifennu'r Mynegai o'r naill bentwr ar ôl y llall yn ystod saith mis cyntaf y flwyddyn, a chwyddodd y gwaith yn 560 tud. foolscap, a gwerthais ef i'r 'Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth. Y mae'r hanner can cyfrol hyn yn cynnwys gweithgareddau byd ac eglwys yng Nghymru, ac i raddau ym Mhrydain oll, yn ystod hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a phrin y gwelwyd yn y Dywysogaeth weithgareddau mwy arwyddocaol