Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Peth Byw. WRTH fynd a dod ymhlith crefyddwyr cefn gwlad, dof ar draws rhai sy'n dal i gredu yn gryf yn Nuw, eto heb hyder yn llwydd- iant ei ymgyrch mewn hanes. Wedyn ceir llaweroedd sy'n ryw fudr-gredu yn llwyddiant ei ymgyrch yn y byd heb fawr ddim ffydd mewn Duw sy'n ddigon mawr i sicrhau'r llwyddiant. 'Chreda' i yn fy myw nad yw hyn yn beth od iawn, er clywed gan lawer fod y ddau safbwynt yn hen fel pechod a bod pob math o ysgolion urddasol o ddiwinyddiaeth a gwrth-ddiwinydd- iaeth ar hyd yr oesoedd hyd heddiw wedi noddi'r ddwy ffordd yma o ymateb i ddirgelwch bywyd. Efallai mai rhyw arallfydolrwydd sy'n peri bod cymaint o weddïwyr cyhoeddus yn cyflwyno'r cleifion i'r Arglwydd er mwyn iddynt hwy eu hunain gael sbario mynd i edrych am- danynt yw'r naill, neu efallai'r arallfydolrwydd sy'n cael ei oglais wrth feddwl eu bod hwy eu hunain nid fel pobl eraill, oblegid eu <fíydd yn y Ffydd, heb sylweddoli nad ffydd yn y Ffydd yw gwir ffydd ond ildio i'r gras sy'n gweddnewid dyn o fod yn greadur sydd eisio agor ei geg i fod yn greadur sydd eisio agor ei glust a'i law; yr optimistiaeth iwtopian sy'n cyn- hyrchu Men like Gods (Wells) a Major Barbara (Shaw) i ddim ond i farw fel Wells a Shaw wedi gweled ffolineb ac arwyneb- olrwydd ofnadwy Men Like Gods a Major Barbara, yw'r llall efallai. Duw uwchlaw'r byd (trosgynnol) heb fod yn y byd yw'r naill; Duw yn y byd (mewnfodol) heb fod uwchlaw'r byd yw'r llall. Ac y mae chwarter canrif o ymhel â'r meddwl a'i broblem- au yn fy ngwthio i i deimlo bod yn rhaid i ddyn wrth Dduw sy'n gyfuniad o'r naill a'r llall, er mwyn uno ein bywyd. O roi'r acen ar gyfiawnder y dirgelwch sydd uwchlaw'r byd canfyddir caethiwed dyn i dduwiau dynion ac i'w eilunod tylwythol, a cheir ymdeimlad o bechod, ymdeimlad fod rhywbeth ymhell bell o'i le, ac angerddolir ein hamheuaeth am ddyn. O roi'r acen ar immanence (mewnfodaeth) tanseilir awdurdod y syniadau tra- ddodiadol am Dduw, a chymerant hwythau eu He ym mhatrwm yr holl bethau cyflyredig (conditioned) sydd dan haul; a gwarch-