Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau. WHITGIFT AND THE ENGLISH CHURCH. English Universiües Press Ltd. V. J. K. Brook, Chaỳlain and Fellow of the All Souls College, Oxford. Tud. 190. Pris, 8/6. Tybiwn mai cryn gamp oedd ysgrifennu llyfr darllenadwy a buddiol ar wr mor anniddan â Whitgift. Deliais fy hunan yn ymryson yn erbyn popeth a gredwn amdano o'r blaen, wrth ddarllen y llyfr hwn gan fy hen athro hyglod yng Ngholeg Lincoln, yn Rhydychen gynt. Clod nid bychan i'w waith yw tystio ddarfod iddo ysgrifennu'r fath lyfr a'm cadwodd yn effro ar fwy nag un prynhawn tesog ym Mehefin eleni, yn wir llyfr sy'n fwynhad pur o'r dechrau i'r diwedd. Gormod a ifyddai disgwyl i neb symud yn llwyr yr argraff a erys ar feddwl unrhyw Ymneilltuwr a ymgydnabu â hanes Whitgift. Er hynny, bydd yn rhaid inni gywiro mymryn ar ein hagwedd tuag ato ar ôl darllen llyfr Canon Brook, ac anwybyddu'r pethau cas a ddywedwyd amdano, gan Macaulay ac eraill. Nid oedd Whitgift yn ddyn mawr ar unrhyw gyfrif. Ni allai'r un hanesydd ar y ddaear wneud cawr ohono. Un gamp ar y llyfr hwn yw'r ymdeimlad na cheisiodd yr awdur wneud yr hyn oedd yn amhosibl. Y mae'r ymdriniaeth yn deg, a'r farn yn gymedrol ar hyd y ffordd. Ni cheisiodd yr awdur ychwaith osgoi'r pethau anhyfryd yng ngwaith Whitgift, na dylorni ei brif wrthwynebydd, Cartwright. Eithr cafwyd portread o ddyn clyfar, uchelgeisiol, penderfynol, cyfrwys; portread o ymgysegriad hefyd (os dyna'r gair cywir) i un amcan ac un nwyd mawr ei holl fywyd. sef hyrwyddo Eglwys Loegr ar gyfnod tynghedfennol, yn erbyn Rhufain ar un llaw, a'r Piwritaniaid ar y llall. Rhaid sylwi fod mwy o le yn cael ei roddi i'r frwydr yn erbyn Presbyteriaeth nag yn erbyn Rhufain, a go brin y gellir derbyn y syniad, a geir yma, nad oedd ganddo fwy o duedd at Rufain nag at y gwersyll arall, sef disgyblion Genefa. Diamau fod y cyfnod yn un o'r rhai pwysicaf yn hanes Crefydd ym Mhrydain, sef teyrnasiad y Frenhines Elisabeth. A chredai Whitgift yn angerddol fod lles a ffyniant Prydain a dyfodol Cristionogaeth yn dibynnu ar ddiogelu prif egwyddorion y math ar eglwysyddiaeth a geir mewn Anglicaniaeth. Dengys yr awdur iddo lwyddo y tuhwnt i bob disgwyliad yn ei brif ddibenion. Rhoes ei fryd ar godi safon y weinidogaeth yn Eglwys Loegr, ar ddwyn gwell trefn a disgyblaeth i'r sistem eglwysig; ar gael adroddiadau cywir am gyflwr crefydd yn y .gwahanol esgobaethau; ac nid dibwys mo'r cyfraniad cadarnhaol yna, a chofio swm ei lafur yn ei ddiben- ion negyddol, sef yn ei frwydrau enbyd yn erbyn y Presbyteriaid, ac yn y blynyddoedd diweddaf yn erbyn Ymneilltuwyr. Dylid cydnabod amryw o achosion eraill, heblaw clyfrwch Whitgift, dros ei lwyddiant; bodlonaf ar enwi dau, sef gallu a chrebwyll anghredadwy'r Frenhines yn holl ddadleuon diwinyddol ac eglwysig ei brenhiniaeth; ac yna, tua'r diwedd, waith gorchestol a godidog Richard Hooker-o bosibl y