Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dyn mwyaf a gododd yr Eglwys Anglicanaidd erioed. Rhoes Hooker ategiad nerthol a chymedrol i holl frwydrau Whitgift, a'r clod pennaf iddo, efallai yw dywedyd iddo fraenaru'r ddaear ar gyfer yr Ecclesiastica% Polity. Hawdd a fyddai sôn am ddegau o bethau tra diddan yn y llyfr hwn, ond rhaid ymatal. Ceir yr hanes am benodi Hooker yn Bennaeth y Temple yn 1585 (tud. 106 — 7), yn erbyn barn a theimlad y cyfreithwyr a addolai yno. Gwrthodwyd Travers gan Whitgift am mai fel Gweinidog Presbyter- aidd yr ordeiniasid ef. Eithr mynnai'r cyfreithwyr ei gael i bregethu iddynt yn y prynhawn, a Hooker yn y bore-" the forenoon sermon spake Canterbury, and the afternoon Geneva. Dywedir hefyd mai Bancroft oedd yr Anglican cyntaf (tud. 128) i honni awdurdod apostolaidd. Rhyfedd braidd na fuasai rhywun wedi meddwl am hyn yn gynt-yn enwedig a chofio'r honiadau anhygoel er adeg Mudiad Rhydychen Anodd gadael y llyfr heb ryw fymryn o ofid na fuasai egwyddorion Presbyteriaeth wedi lIwyddo'n fwy yn y cyfnod hwn, ond ni ddylid beio Cartwright a Travers am hynny. Y mae'r achos i'w briodoli'n bennaf i alluoedd a challineb Whitgift. Cymeradwyir y llyfr teg, 'goleubwyll a difyr hwn i bob Cymro meddylgar, boed ef yn Eglwyswr, Presbyteriad neu Annibynnwr. STEPHEN OWEN TUDOR. Caemarfon. WALES AND THE ARTHURIAN LEGEND. Roger Sherman Loomis. University of Wales Press, Cardiff, 1956. Tt. 231. Pris 21/ Cynnwys y llyfr hwn ddeg erthygl yn ymdrin â gwahanol agweddau ar y broblem Arthuraidd. Ac eithrio'r ymdriniaeth â Brân the Blessed and Sone de Nausay," y mae'r cwbl o'r cynnwys eisoes wedi ymddangos mewn cylchgronau Americanaidd. Fel y gwyddys, yr oedd yr awdur ymhlith yr arloeswyr a fynnai mai llenyddiaeth Geltaidd oedd tarddell y rhan fwyaf o'r defnyddiau sy'n sylfaen i'r cerddi a'r ystoriau Ffrangeg am Arthur a'i osgordd. Erbyn heddiw, nid oes nemor neb a wâd fod rhan sylweddol ohonynt i'w priodoli i ffynonellau Celtaidd; y pwnc llosg bellach yw pa faint yn union o gynnwys y testunau Ffrangeg y gellir ei olrhain yn ôl i'r ffynonellau hyn. I ddechrau, rhaid derbyn y ffaith nad oes unrhyw brototeip i hanes y Greal fel cyfanwaith i'w gael yn un o'r ieithoedd Celtaidd, nac ychwaith achos i gredu fod y fath beth wedi bod erioed. O ganlyniad, y mae'r ysgolheigion sy'n astudio'r cysylltiadau rhwng llenyddiaeth Geltaidd a'r chwedlau Arthuraidd ar y cyfandir yn arfer canolbwyntio ar elfennau yn yr ystori, yn hytrach na'i hystyried yn ei chrynswth. Y mae'r dull hwn o weithio wedi dwyn ffrwyth toreithiog, ac y mae cyfanswm y cymeriadau, digwyddiadau a manylion amrywiol eraill y gellir eu cysylltu gyda chryn hyder ag elfennau cyfatebol mewn llenyddiaeth Geltaidd eisoes yn dra niferus. Yn gymharol ddiweddar, cyhoeddwyd dau waith sylweddol sy'n