Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Amcan y bennod ar "The Arthurian Legend before 1139 yw gwrth- brofi gosodiad Tatlock nad oes unrhyw dystiolaeth dros dybio fod saga fwy neu lai ddatblygedig am y brenin Arthur cyn brut Sieffre o Fynwy. Cesglir yn ofalus y dystiolaeth a eill awgrymu fod mynd ar chwedlau Arthur cyn i waith Sieffre gael dylanwad pendant ar ei gyfoeswyr. Mae'n ateb digonol, i'm tyb i, i'r neb a fyn mai Sieffre a oedd yn gyfrifol am ffurfio a lledaenu hanes yr arwr Prydeinig. Bydd y drafodaeth hon yn ddefnyddiol iawn, bid siwr, a hyd yn oed os oedd ei sylwedd ar gael eisoes yn Arthurian Tradition (tt. 12 — 24), y mae'n werth ei chael mewn ffurf hwylusach yn y gyfrol newydd. Yng gweddill y penodau delia'r awdur ag amryw elfennau a thestunau y mae a wnelont â chefndir Celtaidd y cylch Arthuraidd. Y mae'r un sy'n ymdrin â'r hen gerdd Preiddeu Annwn yn Llyfr Taliesin yn haeddu sylw. Fe gynnwys gyfieithiad arbrofol o'r gerdd wedi ei seilio i raddau helaeth ar awgrymiadau nifer o ysgolheigion Cymraeg, ac yna gyfres hir o nodiad- au manwl yn ymdrin â phob agwedd ar y gerdd. Gwyddys fod Preiddeu Annwn yn destun pwysig ar lawer cyfrif, ac amcan Loomis yn y fan hon yw ail-greu, gyda help ffynonellau eraill mewn Gwyddeleg a Chymraeg, y cefndir mytholegol a llenyddol y tyfodd allan ohono. Mae yna ormod o bwyntiau amheus yn y gerdd ei hun i neb fedru cyflawni'r fath dasg yn ddi-wall, ond mae'n anodd gweld sut y gellid gwella rhyw lawer ar ym- drech Loomis yn y gyfrol hon. Ymdrinia hefyd a'r straeon a dyfodd o gwmpas enwau'r hen gaer Rufeinig, Segontium, ger Caernarfon, a Chastell Dinas Brân, ger Llan- gollen; olrheinia amryw elfennau yn y gerdd Ffrangeg Sone de Nausay yn ôl i'r ystori sydd i'w chael ym Mranwen am Fran (neu Fendigeidfran) a'i ddilynwyr yn aros yng Ngwales am bedwar ugain mlynedd heb heneiddio dim; a dengys teitlau'r pedair pennod eraill, sef "King Arthur and the Antipodes," Welsh Elements in Gawain and the Green Knight, The Combat at the Ford in the Didot Perceval a Morgain le Fée and the Celtic Goddesses," pa mor gynefin y mae'r awdur â phob cwr o'r maes Arthuraidd. Un o'r pethau mwyaf trawiadol ynglyn â'r llyfr hwn yw'r goleuni a deifl ar ysgolheictod ei awdur. Mae ei wybodaeth am y llenyddiaeth Arthur- aidd bron yn syfrdanol, ac y mae craffter a choethder yn amlwg yn ei holl ymdriniaeth â'r dystiolaeth ddyrys y mae'n rhaid ei hystyried. Ffrwyth disgyblaeth hir ac astudiaeth eang yw'r rhinweddau hyn. Pan ysgrifen- nodd Celtic Myth and Arthurian Romance flynyddoedd yn ôl, yr oedd ei waith yn tueddu i fod yn orddamcaniaethol, fel y mae ef ei hun yn cyfaddef yn y llyfr dan sylw. Yn ei weithiau diweddarach y mae ffeithiau a damcaniaethau yn cydieuo'n gymharus. Hwyrach mai prif nodwedd ei waith yw ei barodrwydd i ymdrafferthu i sicrhau'r manylion hanfodol ynglyn â'r dystiolaeth Geltaidd, boed ieithyddol neu lenyddol; yn hyn o beth rhagora ar ysgolheígion eraill yn y maes hwn. Aberystwyth. PROINSIAS McCann,