Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Cri'r Croeshoeliedig. Fy amcan yn yr ysgrif hon ydyw ystyried un o'r ddwy lefI y dywedir i'r Arglwydd Iesu Grist eu rhoddi o'r groes, er mwyn ceisio deall ei hystyr yn ei pherthynas a'i ymwybyddiaeth ac â'i brofiad yn ing ei farwolaeth greulon. Ond wedi i mi gymryd y dasg hon arnaf fy hun gwelais hyn, cyn gallwn obeithio gwneuthur chwarae teg â'r pwnc, a rhoi'r esboniad a farnwn i yn gywir arno yn glir gerbron y darllenydd, fod rhaid imi ystyr- ied yn frysiog rai cwestiynau eraill a gyfyd ynglyn ag ef. Oblegid, fel y gwelir yn y drafodaeth, y mae'r pwnc yn llawer mwy dyrys ac anodd nag yr ymddengys ar yr wyneb. Dymunwn hefyd atgofio'r darllenydd fod yn hanfodol bwysig inni, er mwyn gallu synio yn briodol am yr hanes, geisio myned i mewn i'w awyrgylch. Un ffordd i wneuthur hynny ydyw ym- deimlo â'r elfen gysegredig, neu numinous (i fenthyca gair y diwinydd mawr Otto) sydd ynddo. Dylem gofio bod y Ue yr ydym yn sefyll arno yn ddaear sanctaidd, a diosg ein hesgidiau, megis, oddi am ein traed mewn duwiol ostyngeiddrwydd a pharchedigaeth. YR ADRODDIADAU. Cychwynnaf trwy roi cipdrem frysiog ar yr adroddiadau am y cwbl o'r geiriau a lefarodd yr Arglwydd Iesu pan oedd Ef ar y groes. Y mae gennym bedwar adroddiad am y croeshoeliad, un ym mhob un o'r pedair Efengyl, a rhwng y pedwar cawn saith "gair" o eiddo'r Croeshoeliedig. Un ohonynt yn unig a gawn gan Marc, er y dywed ef hefyd i'r Iesu lefain â llef uchel cyn iddo ymadael â'r ysbryd (xv, 37). Fel hyn y rhoddir geir- iau'r Iesu gan Marc yn ôl ein Beibl Cymraeg.­-"Ac ar y naw- fed awr y dolefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, Eloi, Eloi, lama sabachthani ? Yr hyn o'i gyfieithu yw, Fy Nuw, fy 1 Sonia'r emynydd Cymraeg am "Yr uchel lef, Gorffennwyd." Yr hyn sydd yn Ioan xix, 30, ydyw, "Eje a ddywedodd, GorSennwyd."