Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ceinion y Grefydd Gristionogol. Tua diwedd y gwanwyn yn y flwyddyn 1800 daeth ffoadur o Ffrancwr yn ôl i'w wlad ei hun. Dyn cymharol ifanc yd- oedd, yn ei dri-degau cynnar. Yr oedd wedi bod yn alltud am saith mlynedd, ac yn ystod hynny o amser dioddefasai y caledi a'r adfyd sydd yn disgyn gan amlaf i ran ffoaduriaid. Yr oedd wedi dioddef yn gorfforol, prinder bwyd, byw o law i'r genau, ac wedi bod yn agos i newyn a hunan-laddiad. Yn ei ysbryd hefyd yr oedd wedi dioddef llawer, ac o'i ddioddefiadau ysbryd- ol yn fwy na'i ddioddefiadau corfforol y datblygodd dyn newydd, dyn wedi ei ail-eni. Dan gwmwl o ansicrwydd y daeth yn ôl i Ffrainc. Yr oedd y sefyllfa wleidyddol yno o hyd yn gymysglyd iawn. Pa fath groeso a fyddai iddo ef a'i gyffelyb yn y brifddinas Ffrengig? Bu raid iddo fenthyca enw un arall er mwyn cael mynediad i mewn i'w famwlad. Yr oedd eiddo ei deulu, yn cynnwys castell gwych yn Llydaw, ac yn wir y rhan fwyaf o'i de.ulu hefyd, wedi eu hysgubo i ffwrdd gan y Chwyldroad ofnadwy. Ei unig eiddo yn awr oedd gobaith a chariad, a gafael newydd ar y ffydd sydd yn cynhyrchu'r rhinweddau gwerthfawr hyn. Dychwelodd i Ffrainc gyda phwrpas, cenadwri, yn wir cenhadaeth, dim llai na thröedigaeth Ffrainc o'r newydd at Gristionogaeth. Fel tröedigaeth Saul o Darsus, yr oedd ei dröedigaeth ef wedi bod yn llwyr a hollol. Naw mlynedd cynt, ac yntau ar daith i'r America i geisio enwogrwydd a ffortiwn, gwnaeth ei orau i ddadgristioneiddio un o'i gyd-deithwyr, sef Pabydd ifanc o Sais a fu'n aelod o genhadaeth Gatholig i'r Unol Daleithiau. Yr oedd wedi gwneud yr ymgais honno fel disgybl i athronwyr "goleuedig" y ddeunawfed ganrif yn Ffrainc, gelynion cadarn i bob math ar "ofergoeledd uwchnaturiol." Ac eto, hyd yn oed yr adeg honno, gwingo yr oedd i raddau yn erbyn y symbylau. Nid oedd yr un o'r teithwyr ar y for- daith honno yn fwy byw nag ef i brydferthwch golygfeydd y môr, i'r morwyr yn canu yn ddwys eu hemynau syml, i fydr