Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Barddoniaeth y Cae Agored. Awgryma Martin Buber yn ei lyfr Between Man and Man y gellir rhannu hanes dyn yn gyfnodau o ddau fath, sef cyfnodau o ymgartrefu a chyfnodau digartref. Yn y cyntaf, y mae dyn yn byw yn y byd megis mewn ty, megis mewn cartref; yn yr ail. y mae'n byw yn y byd megis mewn cae agored. Yng nghyf- nodau'r ymgartrefu, rhan o hanes y byd yw hanes dyn; eithr pan fo dyn yn ddigartref, y mae i'w hanes ddyfnder ynddo'i hunan. Barddoniaeth un o'r cyfnodau digartref yw Dail Pren. Lladmerydd y byw mewn cae agored yw Waldo Williams. Mewn Dau Gae yw teitl un o'i gerddi. Weun Parc y Blawd a Parc y Blawd yw'r caeau, ac ar dro hwynt-hwy yw canolbwynt y bydysawd a chynefin y ddynoliaeth gyfan: Nes dyfod o'r hollfyd weithiau i'r tawelwch Ac ar y ddau barc fe gerddai ei bobl. Allan ar gae agored y lleolir y gerdd Cwmwl Haf hithau, ac yn hon daw'r ymdeimlad â'r fodolaeth ddibreswyl yn amlwg iawn pan amheuir a oes preswylfod y gellir dychwelyd iddo wedi'r profiad yn y cae: Trwy'r clais adref os oes adref. Pan ddisgrifia'r bardd hwn dy neu ystafell neu aelwyd, ei duedd yw gwthio'r muriau draw ymhell oddi wrth ei gilydd gan roi i'r fangre ehangder agored y ddaear ei hun. Gwneir hyn ar gychwyn Cwmwl Haf lle'r ymdawdd y teios Durham," Devonia," "Allendale," er mor gyfoes faestrefol eu henwau, i mewn i darddle amser Yn yr ogof sy'n oleuach na'r awyr Ac yn y ty sydd allan ymhob tywydd. Pan ofyn y bardd hwn Beth yw byw?" ei ateb yw: Cael neuadd fawr Rhwng cyfyng furiau. Yn yr un modd nid diddosrwydd preifat a thwt sydd y tu hwnt i riniog ystafell y cariadon yn y gerdd Oherwydd ein Dyfod ond