Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ychydig Eiriau. Geiriau'r Beibl yw fy mhwnc y tro hwn, nid ysywaeth y geiriau hawdd, syml, hyfryd y mae pawb yn gynefin â hwy, ac yn eu deall yn ddidrafferth, ond y geiriau anodd ac anghynefin, sydd erbyn hyn yn dywyll, ac annealladwy. Erbyn meddwl nid yw'n rhyfedd yn y byd fod rhai felly i'w cael ynddo. Er dydd- iau William Salsbri, William Morgan, a John Davies, mae'n agos i bedwar can mlynedd wedi mynd heibio, a llawer o newid wedi bod ar y Gymraeg yn y cyfamser. Weithiau aeth gair yn hollol ddieithr: peidiodd â bod ar lafar nac ar lyfr. Weithiau arhosodd ffurf y gair yr un fath, ond collwyd yr hen ystyr, e.g., arwain. Gwyr pawb beth yw arwain côr, neu arwain byddin, neu arwain march; rhywbeth fel ledio, mynd o flaen, tywys. Ond beth yw yn Ioan xix, 5? "Yna y daeth yr Iesu allan yn arwain y goron ddrain, a'i wisg borffor. A Pheilat a ddywedodd, Wele y dyn! Yn y darn dramatig hwn, rhaid mai dwyn, neu wisgo yw arzvain. Cymharer Iolo Goch, 13 i Edwart III: Cyn dy farw y cei ar'wain Y tair coron cywair cain. Yng Nghyfreithiau Hywel Dda (A.L. td. I, 24) dywedir y dylai pen hebogydd gael croen hydd yn yr Hydref, a chroen ewig yn y Gwanwyn, i wneud menyg i arwain ei hebog, h.y., i'w gario neu ei gludo ar ei arddwrn wrth fynd i hela. I glensio'r hoelen, os oes raid, cymerer hyn: mewn llawysgrif ym Mostyn (M.131) a gopïwyd rhwng 1605 a 1618, ceir Englyn i Waets Syr Tomas, sef yw waets klock bychan yw (=i'w) arwain mewn poced." Dyna dystiolaeth go gynnar i watch y gwr bonheddig, a'r modd yr oedd yn ei chario. Petasai yn ben hebogydd, ond odid na wisgai hi ar ei arddwrn, bob yn ail a'i hebog! Brawd yw arwain i cywain fel y gwelir oddi wrth Mathew vi, 26, am yr adar, Nid ydynt yn hau, nac yn medi, nac yn cywain i ysguboriau." Ond dengys y cy— ar ddechrau'r gair,