Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau. BETH YW PRESBYTERIAETH? W. E. Tho?nas. Llyfrfa'r M.C. 2/6. BETH YW CALFINIAETH? S. O. Tudor. Llyfrfa'r M.C. 6/ A chymaint o sôn i'w glywed y dyddiau hyn am y Mudiad Ecumenaidd, y mae'n bwysig i bob enwad fod yn sicr o'i safbwynt ei hun, a gwybod digon am yr egwyddorion y safodd drostynt i fedru diogelu yr hyn sydd o werth ynddynt ar gyfer y dyfodol. Dylai'r undeb a geir rhwng Eglwysi Cred gynnwys amrywiaeth o wahanol draddodiadau a safbwyntiau, a phob adran yn yr undod yn cyfrannu yn ei ffordd ei hun tuag at fywyd a phroffes y cyfangorff. Croeso calon, felly, i'r ddau lyfryn yma, a diolch i'r Cyfundeb ac i'r awduron amdanynt. Y mae'r ddau yn glir ac yn ddarllenadwy, ac yn gymorth i ni ddyfod i'n hadnabod ein hunain fel Presbyteriaid a Chalfiniaid. Y mae'r Eglwysi Presbyteraidd, medd Mr. Thomas, yn "deulu mawr a chryf," yn rhifo mwy na deugain miliwn o aelodau. Nid yw'r holl Eglwysi yn hollol yr un fath. Y mae Sesiwn yn rhan o drefn Eglwys yr Alban, ond nis ceir yng Nghymru. Ar y llaw arall, y mae'r Cyfarfod Dosbarth yn perthyn i ni, ac i ni yn unig. Ond ym mhob corff Presbyteraidd fe geir, yng ngeiriau Mr. Thomas, lywodraeth Eglwysig trwy lysoedd graddedig o weinidogion a henuriaid," ac ni chydnabyddir onid un radd o weinidog. ion." Yr ydym fel Presbyteriaid, felly, yn sefyll rhwng y ddau batrwm arall a welir yng Nghymru, yr Esgobyddol a'r Annibynnol. Ac anodd fydd aoghytuno à'r awdur pan ddywed: "O'r safbwynt eciwmenaidd bydd- ai'r Presbyteriaid mewn unrhyw drefniant a gynigir yn rhwym o sicrhau derbyniad y lleygwr i gyfran wirioneddol yn llywodraeth pethau ysbrydol yn yr Eglwys gyfundrefnol." Yr ydym oll, ond odid, yn gwybod beth yw Presbyteriaeth, ac yn credu mewn Presbyteriaeth. Ond faint ohonom, tybed, sydd yn gwybod beth yw Calfiniaeth, ac yn credu ynddi ? Bu tuedd i weld pob math o fai yng Nghalfin ac i ymwrthod yn llwyr â'i ddysgeidiaeth. Ac ni fu pwyslais un- ochrog y Barth cynnar ar rai agweddau i feddwl Calfin yn gymorth i newid barn yn ei gylch. Pob clod, felly, i Mr. Tudor, am wneud ei orau glas i amddiffyn Calfin ac i ddangos annhegwch llawer o feirniadaeth y gorffennol. Yr oedd Calfin yn blentyn y Dadeni, cyn bod yn un o blant y Diwygiad Protestannaidd, ac y mae ei waith yn ffurfio un system ddiwinyddol resym- egol a threfnus. Sylfaen yr holl system yw syniad Calfin am Benarglwydd- iaeth Duw, ac o'r syniad hwn y mae popeth bron yn ei ddiwinyddiaeth yn deillio. A chredaf mai methiant Mr. Tudor i weld hyn sydd yn gyfrifol am y ffaith nad yw ei bennod ar Dduw cystal â'r penodau eraill. Buasem yn hoffi ymdriniaeth fwy trefnus ar y pwnc, a chymhariaeth rhwng syniad Calfin a syniadau rhai fel Luther ac Awstin a Thomas Acwin.